Colofnwyr

RSS Icon
18 Mawrth 2011
Paul Griffiths

Arwydd o’r theatr ar ei orau

Roeddwn i wedi bwriadu sôn yr wythnos hon, am fy anturiaethau yng Ngwobrau’r Oliviers dros y Sul, ond wedi dychwelyd heno o Gaerdydd, wedi gweld cynhyrchiad diweddara’r Theatr Genedlaethol, sef ‘Deffro’r Gwanwyn’, mae’r ysfa i rannu’r genadwri a’r balchder yn llawer mwy.

Heb oes, mae enw drama ‘ddadleuol’ yr Almaenwr Frank Wedekind sef ‘Spring Awakening’ yn dra hysbys, a hynny am ei ymdriniaeth onest, swrth a chynnil o ddeffroad rhywiol ymysg yr ifanc. Pa ryfedd felly fod y deunydd llenyddol wedi ysgogi’r Americanwyr Steven Sater a Duncan Sheick i droi’r cyfan yn ddrama gerdd roc cyfoes. Ychwanegwch at hynny gyfieithiad pwerus a gonest Dafydd James (awdur y ddrama ‘Llwyth’) a’i gyfuniad bwriadol o’r llenyddol barddonol a bratiaith amrwd, ac fe gewch chi ddewis dewr iawn i unrhyw gwmni theatr, a sialens enfawr i ensemble o actorion a chyfarwyddwyr………

……Yr hyn am trawodd fwyaf am y cynhyrchiad ydi dyfnder cyfarwyddo cyhyrog Elen Bowman, sy’n gwthio’r actorion ar daith gorfforol a meddyliol, y tu hwnt i eiriau dethol Dafydd James. Y mae yma aeddfedrwydd a gonestrwydd ffres a chynhyrfus, a gwir deimlad bod pob un o’r tri actor ar ddeg yn cyfrannu cant y cant tuag at lwyddiant y cyfanwaith. Diolch o galon i’r actorion hynny am dderbyn y sialens, ac am roi inni gynhyrchiad safonol, dirdynnol sy’n llwyr haeddu’r teitl a’r llwyfan Cenedlaethol….....

.......Mae ‘Deffro’r Gwanwyn’ ar daith ar hyn o bryd. Da chi, peidiwch â’i fethu. 22-23 Mawrth Canolfan Hamdden Pontardawe, 25-26 Mawrth Canolfan Hamdden Aberaeron, 29 Mawrth - 01 Ebrill Canolfan Hamdden Dolgellau, 05-06 Ebrill Canolfan Hamdden Llanrwst, 8-9 Ebrill Canolfan Hamdden Wrecsam, 12-15 Ebrill Canolfan Hamdden Biwmares.

I ddallen y golofn yn ei chyfanrwydd CLICIWCH YMA

Rhannu |