Colofnwyr
Wyth cân yn talu am eu lle
BU wythnos Gŵyl Ddewi’n gyfnod hynod o brysur yma yn y Bont. Gydol yr wythnos bu yna ffilmio yn y Pafiliwn Cenedlaethol, y gweithgareddau’n cyrraedd eu huchafbwynt gyda thelediad byw o Cân i Gymru nos Sul.
Wnes i ddim mynd i’r achlysur, er nad oedd e’n digwydd ond hanner milltir i ffwrdd. Ond fe wyliais i’r rhaglen ar y teledu a chael fy mhlesio’n fawr. Am y tro cyntaf ers tro cafwyd wyth gân safonol, yr wyth yn talu’n llawn am eu lle. Roedd y cyflwyno’n llyfn ac yn ddiwastraff yn nwylo Elin Fflur a Daf Du. A bu’r telediad slic yn bluen arall yn het cwmni teledu Avanti. A gobeithio fod y Pafiliwn wedi plesio. Dyma, wedi’r cyfan, yr adnodd gorau o’i fath yng Nghymru.
Da o beth fu cael Rhydian fel gwestai i ganu ‘Yma o Hyd’. Roedd llwyddiant yr ymgyrch ‘Ie’ yn amlwg yn y dathliad. Gydol pnawn dydd Gwener bûm yn gwylio’n ddyfal raglen S4C ar y canlyniadau. A do, fe ymhyfrydais yn y ffaith i garfan ‘Na’ gael crasfa dda. Er y bydd arna’i hiraeth mawr am y ddau ‘No-hoper’, Bill Hughes a Syr Eric Howells. Diolch bois, mae fy esgyrn i’n dal yn boenus wedi’r holl chwerthin.
I ddarllen gweddill y golofn CLICIWCH YMA