Colofnwyr

RSS Icon
04 Mawrth 2011
Lyn Ebenezer

Chaiff neb na dim ei choncro

AM naw o’r gloch bob nos Sul caiff popeth lonydd. Dyna pryd fydd Alys ar S4C ac mae gwylio’r gyfres ddrama hon wedi troi i fod yn wylio gorfodol. Alys yw heroin S4C. Rwy wedi fy ennill yn llwyr. Rwy fel brithyll yn gwingo ar fachyn neu fel ysgyfarnog wedi fferru yn mhelydrau lampau car.

Ar ôl y bennod gyntaf roedd gen i amheuon. Ofnwn mai rhyw ymarferiad ar gyfer y trendi lefft oedd y cyfan, gydag aelodau’r dosbarth canol i gyd yn gnafon tra bod aelodau’r dosbarth gweithiol oll yn ddioddefwyr. Ond na, ddylwn i ddim bod wedi amau. Yn driw i’w llwyddiannau yn y gorffennol mae Siwan Jones unwaith eto wedi taro’r hoelen ar ei phen. Wn i ddim sut fedr hi dynnu’r gwningen allan o’r het bob tro.

Alys yw’r gyfres ddrama orau ar unrhyw sianel ar hyn o bryd. Mae hi’n cydio. Mae hi’n fy sobreiddio a’m gwylltio ar yr un pryd, ac mae’r cyffyrddiadau o hiwmor du yn gweithio bob tro.

I ddarllen gweddill y golofn CLICIWCH YMA

Rhannu |