Teledu

RSS Icon
12 Mawrth 2012

Ioan Hefin yn mwynhau chwarae'r dihiryn

Mae gan yr actor Ioan Hefin a’i gymeriad Dafydd Wyn yng nghyfres ddrama S4C, Teulu, un peth yn gyffredin – nid yw'r naill na’r llall yn wynebu creisus canol oed.

Mae’r gŵr 48 oed o Sir Gaerfyrddin wrth ei fodd gyda’r amrywiaeth o gymeriadau y mae’n cael chwarae bellach ac yntau’n agosáu at ei hanner cant.

Ac mae Dafydd Wyn, y gŵr busnes slic a chlyfar yn y gyfres nos Sul ar S4C yn licio’r her o fargeinio a chynllwynio a’r wefr o gael affêr gydag un o fenywod mwya’ pwerus Teulu, Margaret Morgan.

Mae Ioan, sy’n byw ym Mhorth Tywyn gyda’i wraig Sharon a’i ddwy ferch, Heini ac Elen, yn ddyn bodlon, teuluol yn ei fywyd go iawn ond mae’n cyfadde’ ei fod yn cael blas ar chwarae’r dihiryn.

"Wy wedi chwarae’r 'hancer' dosbarth canol sy’n uchelgeisiol a chyfforddus ei fyd, mewn cwpwl o gyfresi yn ddiweddar," meddai Ioan, a serennodd hefyd yn y gyfres ddiwethaf o’r ddrama Gwaith Cartref. "Ac mae’n rhaid imi gyfadde’ fy mod yn cael blas ar chwarae’r bachan drwg!

"Rwy’n mwynhau chwarae Dafydd Wyn ar Teulu yn arbennig am fod y castio, y sgriptio a’r cymeriadu mor dda. Mae yna sbarc rhwng cymeriad Dafydd Wyn a Margaret ac, er eu bod yn ddau gymeriad caled ac uchelgeisiol mewn llawer ffordd, mae yna dynerwch rhyngddynt. Fe allaf gydymdeimlo â Margaret – sa i’n beio hi am ishe dianc o’i pherthynas ddiflas gyda Dr John."

Mae Ioan wedi cydweithio â Mair Rowlands o’r blaen ar y gyfres sebon Pobol y Cwm flynyddoedd yn ôl a dywed ei fod yn bleser gweithio gyda hi eto a gydag actorion fel Rhys Parry Jones (Dr John) Rhys ap Hywel (Llŷr) a Lisa Marged (Haf).

Dywed Ioan - sydd wedi cael llwyddiant mawr ar lwyfan yn ddiweddar gyda’i gyflwyniad un dyn o fywyd y gwyddonydd o Gymro, Alfred Russell Wallace - fod pobol yn mwynhau Teulu am ei fod yn "gyfle i ddianc i fyd arall ar nos Sul".

"Mae’r cyfuniad hynny o glamour a chymeriadau credadwy yn gwneud hon yn gyfres mae pobl Cymru ishe gweld. Mae pobl yn joio dianc i fyd arall gydag ychydig o glamour a trimmings. Wy’n cyfadde' fy mod i wedi joio gyrru car drud a gwisgo dillad designer wrth chwarae’r cymeriad.

"Mae rhyw deimlad wastad bod bywyd o blaid Dafydd Wyn. Wy’n nabod cymeriadau tebyg iawn iddo fe yma yng ngorllewin Cymru - pobol sy’n gweld eu cyfle i wneud arian ar amser o galedi, yn enwedig yn y busnes adeiladu," meddai Ioan a gafodd ei fagu ym Mynydd y Garreg, ger Llanelli.

Rhannu |