Teledu

RSS Icon
08 Mawrth 2012

Angerdd Cymro am y ffydd Baganaidd

Fe fydd y rhaglen ddiweddara' yn y gyfres Pobol ar S4C yn bortread o Gymro sy’n credu’n angerddol yn y ffydd Baganaidd.

Yn y rhaglen Pobol: Kris y Pagan nos Fercher, 21 Mawrth, cawn ddilyn Kristoffer Hughes, awdur nifer o lyfrau am y gred Baganaidd a phennaeth sect Baganaidd Urdd Derwyddon Ynys Môn.

Fe gafodd camerâu cwmni Telemona ganiatâd arbennig i ffilmio seremonïau a defodau’r ffydd wrth ddilyn Kris a dilynwyr eraill ar Ynys Môn, mewn mannau eraill o Gymru a Phrydain, ac yn yr Unol Daleithiau. Wrth ddilyn Kris dros y tymhorau, cawn ddeall beth mae Derwyddiaeth Baganaidd yn ei golygu a sut mae wedi ei gwreiddio mewn mytholeg Gymreig a Cheltaidd.

Nid ydynt yn credu mewn un Duw fel y Cristion ond yn y pantheon o Dduwiau Celtaidd y cyfeirir atyn' nhw yn ein chwedlau Cymraeg – fel y Mabinogi ac yn arbennig chwedl Taliesin.

Fe gafodd Kris dröedigaeth at Baganiaeth yn ddyn ifanc ac yntau ar y pryd yn fyfyriwr mewn coleg Cristnogol.

"Fe es i goleg Beiblaidd yn Swydd Gaer pan oeddwn i’n 18 oed ond sylweddolais i nad oedd Cristnogaeth wedi’i gwreiddio yn naear Ynys Prydain. Mae Paganiaeth â chysylltiad uniongyrchol â’r tir yng Nghymru ac felly’n berthnasol iawn inni. Dwi isho dangos bod yna draddodiad ysbrydol tu hwnt i’r capel a Christnogaeth - Paganiaeth – sy'n llawer henach ac yn fwy rhyngwladol," meddai Kris, 40 oed, sy’n byw ym Modorgan ac wedi ei fagu ar Ynys Môn.

Caiff gwylwyr weld seremonïau sy'n dathlu troell y flwyddyn - seremonïau yn ymwneud â thro’r haul a gwyliau yn dathlu natur.

"Mae Ynys Môn yn bencadlys naturiol i Baganiaeth yng Nghymru, gan fod traddodiad y Derwyddon mor fawr yno a chreiriau cynhanesyddol, fel y siambr gladdu neolithig Barclodiad y Gawres, mor niferus yno," meddai Kris.

Mae degau o ddilynwyr yn cwrdd mewn gwahanol leoliadau sanctaidd ar yr ynys a thu hwnt, ond prif gartre’r Urdd yw Cae Braint, tir a roddwyd iddynt gan y perchennog i fod yn ganolfan i’r hen dduwies Geltaidd Brigantew ac i fod yn warchodfa natur.

"Rydyn ni’n credu bod hanfod ysbrydol pob dim yn y byd o’n cwmpas a bod duwiau a duwiesau Cymreig yn adlewyrchu grym y ddaear. Mae duwiesau fel Rhiannon, Branwen a Ceridwen yn arbennig o bwysig i mi eu hanrhydeddu."

Byddwn yn ymuno ag o wrth iddo deithio i America i ddarlithio, i ymuno efo Paganiaid eraill mewn defod ac yn arbennig i lywio ei lyfr diweddaraf ar Baganiaeth Geltaidd trwy wasg New Age fwya'r byd, Llewellyn Worldwide a sefydlwyd gan Gymro.

"Mae paganiaeth bellach yn cael ei chydnabod fel crefydd ac mae gennym ni negeseuon perthnasol i’r oes fodern. Rydym yn credu mewn achub ar bob cyfle i beidio gwneud niwed i neb ac i fyw mor agos at natur ag y gallwn. Fe fydd gwylwyr yn synnu i weld cymaint o bobl yn America sy’n gwybod am ein hen chwedlau ac am leoedd fel Llyn Tegid sydd yn fannau o bererindod i Baganiaid yno."

 

Pobol: Kris y Pagan

Nos Fercher 21 Mawrth 9.00pm, S4C

Isdeitlau Cymraeg a Saesneg

Gwefan: s4c.co.uk

Ar alw: s4c.co.uk/clic

Cynhyrchiad Telemona ar gyfer S4C

Rhannu |