Teledu
Terwyn yn ymuno â thîm ffermio
MAE'R darlledwr Terwyn Davies yn mwynhau’r her o fod yn un o ohebwyr ar y gyfres boblogaidd Ffermio ar nosweithiau Llun ar S4C.
Mae Terwyn efallai’n fwy adnabyddus fel cyflwynydd ar raglenni BBC Radio Cymru, ond mae’r cyflwynydd, sydd yn wreiddiol o Ddyffryn Aeron, Ceredigion ond bellach yn byw yng Nghaerfyrddin, yn deall llawer iawn am ffermio a chefn gwlad.
Wedi ei fagu ar dyddyn, mae Terwyn, 31, wedi bod yn aelod o dîm cynhyrchu Ffermio ar gyfer y teledu a’r we ers rhai blynyddoedd ac ar un adeg arferai gyflwyno’r Bwletin Ffermio ar S4C.
Mae wedi ymuno â’r tîm cyflwyno tra bod y cyflwynydd arferol Daloni Metcalfe yn mwynhau cyfnod mamolaeth ar ôl genedigaeth ei phumed plentyn, mab bach.
"Dwi wrth fy modd yn cwrdd â phob math o gymeriadau ledled Cymru wrth i mi chwilio am eitemau ar gyfer Ffermio," meddai Terwyn, sydd hefyd yn cynhyrchu’r gyfres Bro ar gyfer S4C gyda’r cwmni cynhyrchu Telesgop o Abertawe.
"Cyfweld â gwleidyddion a chynrychiolwyr o’r undebau amaethyddol yr oeddwn i’n ei wneud ar y Bwletin Ffermio, ond fe fydd gohebu ar Ffermio am gyfnod yn caniatáu i mi gyfarfod pob math o gymeriadau eraill, a dwi wrth fy modd yn clywed eu straeon difyr a chael tipyn bach o hwyl yn eu cwmni!"
Ac yntau yn gyflwynydd radio profiadol, dywed Terwyn fod cyflwyno ar deledu yn brofiad gwahanol iawn i ddarlledu ar radio.
"Gan fod y rhan fwyaf o raglenni radio’n fyw, os ydych chi’n gwneud camgymeriad – yna fedrwch chi ddim gwneud dim amdano. Gyda chyfres deledu fel Ffermio, mae’n wahanol oherwydd mae modd ffilmio fersiwn arall, er mwyn cael pethau’n iawn. Ac mae’n rhaid i chi gofio hefyd fod pobl yn mynd i’ch gweld chi ar y teledu – felly rhaid gwneud yn siŵr eich bod chi’n edrych yn weddol ddechau!", esbonia Terwyn.
Ar y rhaglen nos Lun, 14 Mawrth, bydd Terwyn yn gohebu o Fferm Porthmawr, Llanon ger Aberystwyth pan fydd yn cwrdd â’r ffermwr Eifion Jones a’i wraig Anwen, sydd wedi adeiladu sied gron ar ei fferm- yr ail yn unig o’i bath yng Nghymru.
"Yn wahanol i Rufain, mae modd codi’r sied hon mewn wythnos!"meddai Terwyn. "Mae’n debyg ei fod yn ffordd ddelfrydol o ofalu am eich da byw os ydych chi’n gweithio ar eich pen eich hun."
Ffermio, Llun 14 Mawrth 20:25, S4C, Isdeitlau Saesneg
Hefyd, Mawrth 15 Mawrth 13:55, S4C gydag isdeitlau Saesneg ar y sgrin
Gwefan: s4c.co.uk/ffermio, ar alw: s4c.co.uk/clic
Cynhyrchiad Telesgôp ar gyfer S4C