Teledu

RSS Icon
08 Mawrth 2012

Y gloch yn canu ar gyfres newydd o Gwaith Cartref

Mae cloch yr ysgol ar fin canu - y sŵn byddarol hynny na fydd llawer iawn o athrawon a disgyblion ysgol ddychmygol Bro Taf eisiau ei glywed.

Ond i wylwyr S4C fe fydd clywed y gloch ar nos Sul, 18 Mawrth yn newyddion da gan fod tymor newydd o wylio’r gyfres boblogaidd Gwaith Cartref ar fin dechrau.

Mae cryn edrych ymlaen at yr ail gyfres ar ôl i’r gyfres gyntaf greu cymaint o argraff hydref diwetha'. Yr awdur Roger Williams sydd wedi ysgrifennu’r ail gyfres hefyd, gyda chwmni

Fiction Factory yn cynhyrchu’r gyfres a ffilmiwyd yn hen ysgol ramadeg Y Barri.

Ymhlith y cymeriadau mae’r athro Cymraeg Wyn Rowlands (Richard Elis), yr athrawes chwaraeon Beca Matthews (Hannah Daniel), yr athrawes celf Sara Harries (Lauren Phillips), yr athrawes drama Nerys Edwards (Catrin Fychan), yr ysgrifenyddes Gemma Hadden (Siw Hughes), yr athrawon daearyddiaeth Gwen Lloyd (Rhian Morgan) a Dan James (Huw Rhys) a’r prifathro Rhydian Elis (Rhodri Evan).

Dau gymeriad fydd yn destun sylw mawr ar ddechrau cyfres 2 yw’r pâr Simon Watkins (Rhys ap Trefor) a Grug Matthews (Rhian Blythe), dau sydd ar groesffordd yn eu perthynas. Pwy all anghofio’r gusan angerddol rhwng Grug a ffrind gorau Simon, Dan, ar ddiwedd y gyfres ddiwetha’'?

"Mae perthynas y ddau wedi dal dychymyg y gwylwyr ac mae’n wych bod yn rhan o stori mor ddifyr mewn cyfres hefo cast a chriw cynhyrchu mor dalentog. Mae Simon yn gallu bod yn gymaint o ffŵl ac mor hunanol, ond mae o’n caru Grug." meddai’r actor 32 oed, Rhys ap Trefor.

"Mae llawer wedi dweud wrtha i fod Simon yn union yr un fath ag athro roedden nhw’n ei gofio yn yr ysgol - un sydd bob amser isho dringo’r ysgol ac achub ar bob cyfle i grafu i’r prifathro. Ond tydi o ddim yn ddrwg i gyd - fel y cawn weld yn y gyfres hon."

Meddai’r actores Rhian Blythe, 30, "Mae Grug bob amser wedi bod yn gall ac yn gyfrifol ac mae wedi mapio ei bywyd a’i gyrfa yn ofalus. Roedd priodi Simon a chael teulu yn rhan o gynllun gofalus, ond mae ei thynfa at Dan wedi codi cwestiynau ai hynny mae hi isho mewn gwirionedd. Ond y cwestiwn mawr yw beth yw dyfodol y berthynas - ac a fyddan nhw’n priodi? Dwi ddim yn siŵr be’ ddaw - mae’r cwbl yn y fantol."

Mae’r ddau wedi plesio gyda’r ymateb i’r gyfres gyntaf – yn enwedig ymhlith pobl ifanc.

"Rydan ni wedi cael ymateb da i’r gyfres, yn enwedig ar Facebook a Twitter. Dwi wedi clywed am dipyn sy’n gwylio’r gyfres ar lein sy’n awgrymu bod cynulleidfa ifanc yn gwylio," meddai Rhys, sy’n wreiddiol o Garndolbenmaen, ger Porthmadog, ond nawr yn byw yng Nghaerdydd.

Ychwanega Rhian, sy’n wreiddiol o Landwrog, ger Caernarfon, "Mae’n neis clywed bod cymaint o ddisgyblion ysgol yn gwylio, sy’n dangos bod gan y gyfres rywbeth i’w cynnig iddyn nhw a bod ganddyn nhw ddiddordeb yn y ffordd y mae athrawon yn bihafio tu allan i’r ysgol!"

 

Gwaith Cartref, Nos Sul 18 Mawrth 9.00pm, S4C

Isdeitlau Cymraeg a Saesneg

Cynhyrchiad Fiction Factory ar gyfer S4C

Rhannu |