Teledu
Meinir yn dechrau dyddiadur fideo ar Ffermio
Fe fydd y cyflwynydd Meinir Jones yn dechrau dyddiadur fideo misol ar y gyfres Ffermio o nos Lun, 23 Ionawr (8.25pm).
Byddwn yn dilyn Meinir ar fferm y teulu ym Maesteilo, Capel Isaac ger Llandeilo, lle cawn ddod i nabod ei theulu, ffrindiau ac wrth gwrs yr amrywiaeth o anifeiliad sy’n byw ar y fferm.
Mae’r cyflwynydd 26 oed wedi bod yn cyflwyno ar Ffermio ers blwyddyn bellach ar ôl cyfnod fel cyfarwyddwr ffilm ac ymchwilydd ar y gyfres amaeth a gwledig boblogaidd.
Yn ogystal â gweithio ar Ffermio i gwmni cynhyrchu, Telesgôp yn Abertawe, mae’n gweithio ar y fferm defaid a bîff bob cyfle y caiff hi gyda’i rhieni Eifion a Doris Jones a’i brawd iau, Eirian.
Yn y rhaglen gyntaf, cawn gyflwyniad i’w chartre’, cwrdd â’i theulu a’i gweld hi’n cneifio ei diadell ei hun o ddefaid Balwen Cymreig.
“Mae ffermio a chefn gwlad yn agos iawn at fy nghalon i - ac rwy’n edrych ymlaen at roi portread ym mywyd fferm yn Sir Gaerfyrddin a hynny o safbwynt rhywun ifanc,” meddai Meinir, sy’n aelod brwd o Glwb Ffermwyr Ifanc Llanfynydd.
Ychwanegodd cynhyrchydd Ffermio, Gwawr Lewis: “Fe wnaeth Ffermio ddyddiadur fideo misol ar fferm y cyflwynydd Alun Elidyr yn Rhyd-y-Main ddwy flynedd yn ôl ac roedd yn boblogaidd iawn gyda’r gwylwyr. Rwy’n ffyddiog y bydd diddordeb ac angerdd Meinir am ffermio a chefn gwlad hefyd yn tanio diddordeb pobl.”