Teledu

RSS Icon
08 Rhagfyr 2011

Carolau o Langollen i gynhesu’r galon

Y tenor o Sir Fôn, Gwyn Hughes Jones yw seren y gyngerdd Nadoligaidd flynyddol Carolau o Langollen eleni, a chawn fwynhau goreuon y perfformiadau ar S4C nos Iau 22 Rhagfyr.

Yn rhannu llwyfan â Gwyn bydd y soprano Mari Wyn Lewis, côr Crescendo, y perfformiwr ifanc Cai Fôn Davies, Band Arian Northop, yr Ukuleighleighs, Alun Tan Lan, Ysgol Pen Barras a Chôr Meibion Rhos.

Bydd y gyngerdd hefyd yn cynnwys perfformiad cynta’r garol fuddugol yn y gystadleuaeth Carol Nadolig a gynhelir yn flynyddol gan S4C a’r Daily Post. Y garol fuddugol eleni yw ‘Llwybrau Cofio’ a gyfansoddwyd gan Elfed Morgan Morris a Lowri Watcyn Roberts.

Elfed, dirprwy brifathro yn Ysgol Llandygai, Bangor, a gyfansoddodd y dôn gyda Lowri, pennaeth yr adran Gymraeg yn Ysgol Brynrefail Llanrug, yn darparu’r geiriau. Mae’r ddau yma gyda'i gilydd wedi ennill y gystadleuaeth ddwywaith yn y gorffennol.

Dywedodd un o feirniaid y gystadleuaeth, Hefin Owen o gwmni Rondo sy’n cynhyrchu’r rhaglen Carolau o Langollen i S4C. “Mae’r garol yn hynod o swynol ac rwy’n siŵr y bydd hi’n boblogaidd. Mae hi’n gân y bydd dyn yn ei chofio ar ôl ei chlywed unwaith.

“Gall gwylwyr S4C edrych ymlaen at glywed y garol newydd sbon am y tro cyntaf fel rhan o’r rhaglen Carolau o Langollen ar 22 Rhagfyr.”

Yn cyflwyno’r gyngerdd bydd Branwen Gwyn a Hywel Gwynfryn. Dyma’r wythfed tro i Branwen gyflwyno’r noson ar lwyfan Pafiliwn Llangollen, ac mae hi wrth ei bodd.

"Mae Carolau o Langollen yn bendant yn ddechrau’r Nadolig i mi. Mae’r gynulleidfa mor driw, a dwi’n siŵr fy mod i’n gweld yr un wynebau bob blwyddyn," meddai’r gyflwynwraig sydd yn rhybuddio bod angen i’r gynulleidfa ddod â digon o ddillad cynnes!

"Mae hi’n gallu bod yn ofnadwy o oer yno. Mi wnes i gamgymeriad y tro cyntaf o wisgo ffrog heb gardigan ar fy ysgwyddau. Ond mae hyn yn rhan o’r holl hwyl i’r gynulleidfa sydd yn lapio eu hunain mewn cotiau mawr a blancedi. Mae’n ychwanegu at y teimlad Nadoligaidd."

Mae’r digwyddiad hefyd yn codi arian er budd elusen yr hosbis i blant, Tŷ Gobaith a hoff ran Branwen o’r gwaith o gyflwyno’r gyngerdd yw’r cyfle i ymweld â’r hosbis.

"Mae pobl yn gofyn i mi a ydy Tŷ Gobaith yn lle digalon i fynd iddo. Ond na, dydy o ddim, ac yn enwedig adeg y Nadolig. Mae’r arian sy’n cael ei godi gan y gyngerdd yn help mawr iddyn nhw, ac maen nhw’n gwerthfawrogi hynny’n fawr," meddai Branwen.

Carolau o Langollen
Nos Iau 22 Rhagfyr 21:00, S4C
Hefyd, Dydd Nadolig 12:00, S4C
Isdeitlau Saesneg
Gwefan: s4c.co.uk/cerddoriaeth
Ar alw: s4c.co.uk/clic

Rhannu |