Teledu

RSS Icon
20 Hydref 2011

Dysgu mewn ffermdy yn Eryri 1890

Bydd yr athro “cas” o’r rhaglen deledu “Snowdonia 1890”, a aeth a dau deulu yn ôl i fywyd yn yr 1890au hwyr yn Rhosgadfan, yn cyflwyno’r Ddarlith Amgueddfa Lloyd George nesaf ar Ddydd Gwener, 21 Hydref 2011.

Bydd John Dilwyn Williams, Swyddog Addysgol Archifau ac Amgueddfeydd Cyngor Gwynedd yn trafod dysgu mewn ffermdy yn Eryri yn yr 1890au fel rhan o’r ddarlith a gynhelir yn Amgueddfa Lloyd George yn Llanystumdwy.

Bydd y ddarlith ar Ddydd Gwener, 21 Hydref yn dechrau am 7.30pm. Mae ticedi yn £5 ac yn rhad ac am ddim i Gyfeillion Amgueddfa Lloyd George.

Mae Amgueddfa Lloyd George, a reolir gan Gyngor Gwynedd yn agored o Ddydd Llun i Ddydd Gwener (11am i 4pm) trwy gydol mis Hydref. Mae’r Amgueddfa yn cynnwys amrywiaeth eang o eitemau sy’n ymwneud a’r cyn- Brif Weinidog. Am fwy o wybodaeth ewch i: www.gwynedd.gov.uk/amgueddfeydd

 

Rhannu |