Teledu
Un haf ym mywydau cylch o ffrindiau
Haul, syrffio, rhyw, cyffuriau a phryder cyson am arian – dyna yw bywyd i’r criw o bobl ifanc yng nghyfres ddrama newydd S4C, Zanzibar, sy’n dechrau nos Iau.
Mae’r gyfres secsi, gignoeth, ddoniol, dywyll hon, sydd wedi’i ffilmio yn nhref Aberystwyth, yn gosod y chwyddwydr ar un haf ym mywydau cwlwm o ffrindiau.
O Tom a Danny sydd dan bwysau cynyddol gan eu rhieni i Rhian y fyfyrwraig ddrama sydd â phroblemau mawr ariannol; Huw a’i six pack a’i gyfrinach fwy; Miriain sy’n blasu rhyddid am y tro cyntaf, Dai Donkey y cês; Kate sy’n neidio o wely i wely a Gwenno sy’n rhannu ei gwely â darlithydd priod – mae bywydau pob un yn croesi yn nhafarn Zanzibar a’i hystafelloedd aros uwchben.
Mae’r rhan fwyaf o’r cast yn ffres o golegau drama ac yn newydd i’r sgrin fach, ond mae amryw ohonynt wedi treulio sawl haf yng nghwmni ei gilydd ar gyrsiau preswyl Theatr Genedlaethol Ieuenctid Cymru.
Ymysg aelodau’r cast mae Owain Gwynn, Ellen Ceri Lloyd, Dafydd Llŷr Thomas, Meilir Rhys Williams, Catrin-Mai Huw, Elin Phillips, Siôn Ifan, Hanna Jarman a Gwydion Rhys.
Bydd pob pennod o’r gyfres heriol yma’n canolbwyntio ar stori un o’r bobl ifanc, a stori Tom gawn ni yn y bennod gyntaf. Owain Gwynn sy’n chwarae rhan y syrffiwr brwd sy’n eiddgar i brofi popeth sydd gan fywyd i’w gynnig. Yn wreiddiol o sir Benfro, mae’r actor 24 mlwydd oed wedi mynychu’r Royal Academy of Dramatic Art yn Llundain ac wedi ennill gradd actio a stage combat o Ysgol Actio East 15.
“Yr unig debygrwydd rhyngof fi a Tom yw ein bod ni’n dau’n dwlu ar deithio a syrffio,” eglura Owain, sydd hefyd wedi gweithio fel Warden i Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro.
Yn y bennod gyntaf, daw’n amlwg bod Tom wedi penderfynu mynd i deithio er mwyn ceisio dianc rhag problemau teuluol, ond mae’n teimlo rheidrwydd i fynd adref.
“Dwi wedi mwynhau’r profiad o ffilmio’r gyfres yn fawr,” meddai. “Ond ges i dipyn o fedydd tân ar fy niwrnod cyntaf, gan ‘mod i wedi gorfod saethu un olygfa yn noeth!” chwardda.
Yn ôl Beth Angell, Cynhyrchydd ac un o awduron Zanzibar mae pob un o’r cymeriadau’n ceisio dianc rhag rhywbeth.
“Mae Zanzibar yn hafan lle maen nhw’n medru anghofio eu problemau – dianc oddi wrth eu rhieni, y gorffennol neu gyfrifoldebau – a chreu teulu bach eu hunain,” eglura.
“Cawn straeon yr unigolion o’u safbwynt nhw. Rydym yn gweld y cwys maent yn ei dorri dros un haf yn eu bywydau, ac rydym yn cael ein tynnu mewn i’w byd.”
Zanzibar
Nos Iau, 6 Hydref 22.00, S4C
Isdeitlau Cymraeg a Saesneg
Gwefan: www.s4c.co.uk/drama
Ar Alw: s4c.co.uk/clic
Cynhyrchiad Rondo ar gyfer S4C