Teledu

RSS Icon
29 Medi 2011

Cyn athrawes o Sir Fôn yn ennill cystadleuaeth Dechrau Canu Dechrau Canmol

Enid Gruffydd, cyn bennaeth cerdd yn Ysgol David Hughes, Porthaethwy, sydd wedi ennill cystadleuaeth Emyn Dôn i ddathlu 50 mlynedd o’r gyfres Dechrau Canu Dechrau Canmol.

Nid dyma’r tro cyntaf i Enid brofi llwyddiant yn un o gystadlaethau’r gyfres deledu boblogaidd. Yn y flwyddyn 2000 daeth hi i’r brig yng nghystadleuaeth ‘Emyn 2000’ Dechrau Canu Dechrau Canmol a gynhaliwyd er mwyn dathlu troad y ganrif. Enid a gyfansoddodd yr emyn dôn - ‘Llanddwyn’ - a’r diweddar Dafydd Whittall oedd wedi darparu’r geiriau. Mae’r emyn wedi ei gynnwys yn y llyfr emynau cydenwdol ‘Caneuon Ffydd’.

“Yn rhyfedd iawn, mae thema’r emyn yn y gystadleuaeth eleni yn debyg iawn i’r thema a oedd yn yr emyn a ysgrifennodd Dafydd yn 2000. Mae’r ddau emyn yn fodern iawn o ran eu bod nhw’n trafod y gofod a’r galaethau,” meddai Enid.

Roedd y gystadleuaeth eleni yn chwilio am emyn dôn i gyd-fynd a geiriau gan y bardd Siôn Aled ar gyfer emyn newydd i ddathlu pen-blwydd y gyfres yn 50 oed. Bydd yr emyn yn cael ei berfformio am y tro cyntaf mewn Cymanfa ddathlu arbennig, ac yn ei ganu bydd Cantorion Menai, sef y côr mae Enid wedi ei arwain ers 2002.

“Mi wnes i rannu'r newyddion gyda’r côr yn yr ymarfer ar y noson ges i wybod mod i wedi ennill, ac mi ddechreuon ni ymarfer ar unwaith,” meddai Enid.

Mae croeso i bawb fynychu’r Gymanfa yng Nghapel Seion, Stryd y Popty, Aberystwyth am 14:00 brynhawn Sul 2 Hydref. Cysylltwch â Ffion Davies yn Avanti ar 02920 838 137 neu drwy e-bost f.davies@avantimedia.tv i sicrhau eich lle yn y Capel.

Daw Enid yn wreiddiol o Lwynhendy ger Llanelli ond mae hi wedi byw yng Ngogledd Cymru ers 1966. Fe wnaeth hi ymddeol yn 1998, ac ers hynny bu’n weithgar iawn yn cyflwyno datganiadau piano, cyfeilio a chanu’r organ yng Nghapel Penuel Bangor, yn ogystal â’i gwaith gyda’r côr.

“Cerddoriaeth yw fy mywyd a dwi wedi fy nhrwytho yn yr emyn,” meddai Enid, “Roedd canu yn bwysig ym mywyd y capel pan oeddwn i’n blentyn ac fe enillodd fy nhad y Rhuban Glas yn Eisteddfod Glyn Ebwy 1958.”

Fe drodd Enid at gyfansoddi’r emyn ar gyfer y gystadleuaeth yn dilyn marwolaeth ei gwr, fu farw ychydig dros bum wythnos yn ôl ar ôl cyfnod hir o salwch.

“Mi welais i’r gystadleuaeth ym Mhapur Menai bythefnos cyn y dyddiad cau, a phenderfynu ei bod hi’n bryd i mi ddechrau cyfansoddi eto,” esboniai Enid, sydd wedi enwi’r emyn dôn ar ôl ei hwyres saith mlwydd oed Emma Leah.

“Roeddwn i’n meddwl bod ‘Leah’ yn enw da ar gyfer emyn-dôn,” esbonia Enid. “Mi wnes i gyfansoddi dau ddarn ar gyfer y gystadleuaeth am nad oeddwn i’n gwybod beth fyddai’r beirniaid yn hoffi. Mae’r dôn Leah yn weddol draddodiadol, tra bod y llall yn fwy modern neu off beat. Fe enwais y dôn honno ar ôl fy ŵyr Daniel.”

Meddai Alwyn Humphreys, un o feirniaid y gyfres ac aelod o dîm cyflwyno Dechrau Canu Dechrau Canmol, “Derbyniwyd 39 o gynigion i gyd o safon ardderchog. Mae nifer ohonyn nhw’n haeddu gweld golau dydd a dwi’n gobeithio y bydd rhai ohonyn nhw yn cael eu canu gyda geiriau gwahanol.

“Fe gamodd Leah i’r blaen oherwydd roedd fel petai’r geiriau wedi eu bwriadu ar ei chyfer hi. Mae hi’n hynod o ganadwy a dwi’n mawr obeithio y bydd hi’n dod yn glasur.”

Rhannu |