Teledu
Dechrau gyda bwrlwm bywiog y cynadleddau
WEDI hoe dros yr haf, mae aelodau’r Cynulliad yn eu holau yr wythnos hon. Ac yn eu holau hefyd i adrodd ar drafodaethau, dadlau, pynciau llosg a’r sïon o fae Caerydd mae Vaughan Roderick a Bethan Rhys Roberts, a rhaglen wleidyddol BBC Cymru Wales, CF99.
Ac ar eu pennau i dymor y cynadleddau gwleidyddol â nhw wrth i’r pleidiau drafod, llunio a chyflwyno eu polisïau diweddaraf. Bydd digon felly i’w drafod a digon o holi, stilio a phrocio i’w wneud wrth i’r rhaglen wahodd gwleidyddion amrywiol a sylwebwyr gwleidyddol i egluro’u safbwyntiau.
“Wrth i’r gwleidyddion ddychwelyd i’w gwaith, mi fydd CF99 nôl hefyd gyda thrafodaeth fywiog, sylwebwyr sylwgar a’u sylwadau ffraeth,” meddai Delyth Isaac, cynhyrchydd y gyfres. “Mae tymor y cynadleddau wastad yn un cyffrous gyda digon yn digwydd ac felly mi fyddwn ni’ yn dechrau gyda’r bwrlwm bywiog hwnnw.”
CF99
Dydd Mercher, 21 Medi, BBC Cymru Wales ar S4C, 10.30yh
Wednesday, 21 September, BBC Cymru wales on S4C, 10.30yh