Teledu

RSS Icon
16 Medi 2011

Julian Lewis Jones a'i ymdrech i ddal siarc

Bydd y seren Hollywood Julian Lewis Jones a'i gyd-gyflwynydd Rhys Llywelyn, yn ceisio dal siarc o’r lan yn rhifyn gyntaf y gyfres newydd o 'Sgota gyda Julian Lewis Jones, nos Fercher, 28 Medi. Ac ac er i sawl un geisio’r her, nid oes neb wedi llwyddo i gyflawni'r gorchwyl ym Mhrydain erioed o’r blaen.

"Fe geision ni ddal siarc Glas neu siarc Beagle, ac mi roedd hi’n sialens anferthol. Dim ond tri diwrnod oedd gynnon ni i ddal un, tra bod angen tair wythnos mewn gwirionedd," meddai Julian, a wnaeth ddechrau pysgota yn ddeuddeg oed.

Gan ddechrau yn Ynysoedd y Sili, fe fydd y gyfres hon yn ein hebrwng ar daith o amgylch Prydain, gan ganolbwyntio ar ynysoedd y gorllewin. Cawn ein tywys o amgylch Ynysoedd Môr Hafren, Ynys Môn, ynysoedd oddi ar arfordir gogledd Iwerddon, Ynysoedd Heledd, ac Ynysoedd Shetland.

Bydd Julian a Rhys yn pysgota amrywiaeth eang o greaduriaid tanddwr - o’r môr, o afonydd, llynnoedd ac o lychau yn yr Alban hefyd.

Bydd yr actor o Ynys Môn a’r arbenigwr ar bysgota o Sir Gaerfyrddin yn cael cymorth gan y cogydd, Padrig Jones, fydd yn coginio’r pysgod sy'n cael eu dal. Bydd y ddau yn ceisio dal nifer o bysgod i fynd ar y fwydlen, megis siarcod, penfras, pysgodyn gwyn, llysywen y môr, draenog y môr ac eog.

"Dwi’n nabod Padrig yn dda ac felly fe wnes i ei wahodd i gymryd rhan yn y rhaglen. Dwi’n hoff iawn o bob math o fwyd môr, yn enwedig y rhai mwy anghyffredin.

"Llwyddon ni i ddal cymaint o wahanol fathau o bysgod o gwmpas arfordir Cymru; mae’n anffodus nad yw pobl yn ymwybodol o’r amrywiaeth o bysgod sydd yn nyfroedd Cymru."

Mae'r pâr hefyd yn ymweld ag Ynys Môn i gyfarfod brodyr 12 ac 16 oed o’r enw Rhys a Siôn Hughes, sydd yn mynychu Ysgol Uwchradd Bodedern. A pha weithgaredd gwell i griw o ddynion na chystadleuaeth bysgota? Pwy fydd yn dal yr amrywiaeth fwyaf o bysgod, ai Julian a Siôn, neu Rhys Ll. a Rhys H.?

"Mi roedd y bois yn bysgotwyr da iawn, ac maen nhw’n enghraifft dda o boblogrwydd pysgota yn yr ardal, sydd wedi'i hamgylchynu gan ddŵr," meddai Julian, sydd bellach yn byw yn Nantgaredig, Sir Gaerfyrddin.

'Sgota gyda Julian Lewis Jones
Nos Fercher 28 Medi 21:30, S4C
Hefyd, dydd Sul 2 Hydref 15:15, S4C
Isdeitlau Cymraeg a Saesneg
Gwefan: s4c.co.uk/sgota
Ar alw: s4c.co.uk/clic
Cynhyrchiad Telesgôp ar gyfer S4C
 

Rhannu |