Teledu

RSS Icon
15 Medi 2011

S4C ar grwydr i galon cymuned Blaenau Gwent

Bydd S4C yn lansio tymor o raglenni newydd mewn llu o weithgareddau cymunedol yn ardal Blaenau Gwent ar gymal diweddaraf ymgyrch Calon Cenedl y sianel.

Rhwng 26 Medi a 12 Hydref, bydd S4C yn rhoi’r cyfle i drigolion de ddwyrain Cymru fwynhau digwyddiadau i hyrwyddo rhaglenni, personoliaethau a gwasanaethau. Ymhlith y personoliaethau fydd yn cymryd rhan yn ystod y pythefnos fydd Only Boys Aloud, y cogydd Dudley Newbery, Julian Lewis Jones ac aelodau cast Pobol y Cwm.

Hefyd, bydd cyfle i bobl yr ardal ddatgan eu barn am raglenni a gwasanaethau’r sianel a chyfarfod Cadeirydd Awdurdod S4C, Huw Jones a Phrif Weithredwr y sianel, Arwel Ellis Owen mewn Noson Gwylwyr S4C yn Neuadd y Glowyr Llanheledd ar nos Iau, 6 Hydref. Aelodau o gorau Only Men Aloud ac Only Boys Aloud fydd yn cynnig adloniant y noson.

Ymhlith y cyfresi newydd fydd i’w gweld ar sgrîn dros yr wythnosau nesaf fydd Only Men Aloud, cyfres ddrama newydd Gwaith Cartref, ymgyrch Cymru yng Nghwpan Rygbi’r Byd 2011 a Sgota yng nghwmni’r actor Julian Lewis Jones. Bydd cyfle i fwynhau rhagflas o’r holl gyfresi newydd mewn amryw o weithgareddau yn ardal Blaenau Gwent yn yr wythnosau nesaf.

Bydd S4C yn dechrau crwydr Calon Cenedl ym Mlaenau Gwent ar 26 Medi pan fydd cyflwynwyr Cyw – gwasanaeth meithrin y sianel – yn ymweld ag ysgolion a meithrinfeydd yr ardal.

Ar 27 Medi, bydd cwis dafarn arbennig yn cael ei gynnal yng Nghlwb Rygbi Glyn Ebwy dan lygaid barcud y cwis feistr Gareth Roberts. Y wobr i’r tîm buddugol fydd £200 ar gyfer elusen neu gynllun lleol.

Bydd S4C yng Nghlwb Rygbi Glyn Ebwy eto ar 29 Medi wrth i rai o actorion Pobol y Cwm gyflwyno noson o adloniant, rhostio mochyn a sgwrsio gyda’r gynulleidfa am eu profiadau nhw yn gweithio ar yr opera sebon a chynnig rhagflas o’r hyn sydd i ddod yng Nghwmderi yn y misoedd nesaf.

Y ddrama newydd Gwaith Cartref, sy’n dilyn grŵp o athrawon yn eu gwaith bob dydd ac yn eu bywydau personol, fydd yn cael sylw mewn Noson i Ddysgwyr yn Theatr y Met, Abertyleri ar 4 Hydref.

Hefyd ar 4 Hydref, bydd Bardd Plant Cymru, Eurig Salisbury, a chyflwynydd cyfres ieuenctid S4C Stwnsh, Anni Llŷn, yn cyflwyno gwers farddoniaeth wahanol iawn i blant ysgol leol yn Llyfrgell Blaina.

Gallwch ddysgu crefft newydd neu wella eich techneg pysgota yng nghwmni’r actor Julian Lewis Jones a’i gyd-gyflwynydd Rhys Llywelyn ar y Sgota Simulator. Bydd arbenigwyr yn y maes pysgota yn cynnig gwersi ac arddangosfeydd ym Mharc Bryn Bach, Tredegar ar 8 Hydref rhwng 10:00 a 17:00.

Dewch i flasu rhai o ddanteithion blasus Dudley Newbery a holi a sgwrsio gyda’r cogydd yn Y Ddawnsfa, Theatr y Beaufort, Glyn Ebwy ar nos Fawrth 11 Hydref.

I gloi’r gweithgareddau ym Mlaenau Gwent, bydd y cyflwynydd Nia Roberts yn holi Tim Rhys-Evans am lwyddiant Only Men Aloud ac Only Boys Aloud ac am ei gynlluniau ar gyfer Only Kids Aloud yn Ysgol Gymraeg Bro Helyg, Blaina. Bydd perfformiad arbennig gan ddisgyblion yr ysgol hefyd.

Mae ymgyrch Calon Cenedl 2011 eisoes wedi ymweld ag ardaloedd yng Ngheredigion, Llŷn ac Eifionydd a Sir Fôn gan godi arian er budd elusennau lleol a gweithgareddau cymunedol.

Meddai Garffild Lloyd Lewis, Cyfarwyddwr Cyfathrebu S4C, “Rydym yn edrych ymlaen at y cyfle i fynd i Flaenau Gwent, i gwrdd â’n gwylwyr ac i roi blas o’r hyn sydd i ddod ar y sianel cyn hir. Rydym yn estyn gwahoddiad i bawb fwynhau’r amryw o weithgareddau ac adloniant rhad ac am ddim sydd wedi’u drefnu ac i gwrdd â rhai o wynebau mwyaf adnabyddus y Sianel.”

Am fwy o wybodaeth am y digwyddiadau ym Mlaenau Gwent ac am gyfle i fwynhau uchafbwyntiau ymgyrchoedd blaenorol Calon Cenedl, ewch i’r wefan: www.s4c.co.uk/caloncenedl

Rhannu |