Teledu

RSS Icon
18 Chwefror 2011

Llwyfan yn rhoi cyfle i sêr ifanc ddisgleirio


BYDDWCH yn barod i ryfeddu a gwirioni ar rhai o berfformwyr ifanc mwyaf talentog Cymru, wrth i Tara Bethan gyflwyno’r gyfres newydd Sawl Seren? ar S4C.

Bydd Tara yn mynd â llwyfan Sawl Seren? i bob rhan o Gymru i roi cyfle i bobl ifanc ddangos eu doniau. O gantorion, actorion a dawnswyr, i ddweud jôcs, sgiliau syrcas a hyd a lledrith, does dim dal be welwn ni nesa!

“Dwi’n synnu ar faint o dalent sy allan yna,” meddai Tara wrth edrych ymlaen ar ddechrau’r gyfres. “Yn ystod y ffilmio dani eisoes wedi gweld perfformiadau anarferol fel ‘beat boxing’, dawnsio stryd a dawnsio hip-hop, petha’ fyddwn ni ddim fel arfer yn ei weld ar lwyfannau’r Eisteddfod, ac mae hynny yn beth da.

“Mae’n braf rhoi cyfle i bobl sydd ddim yn gallu canu neu actio neu ddawnsio i ddangos beth maen nhw yn gallu ei wneud,” ychwanega.

Bydd rhaid i bob perfformiwr blesio panel o feirniaid, fydd yn gwobrwyo pob un â sêr. Y perfformiwr gyda’r mwyaf o sêr fydd yn symud ymlaen i’r rownd nesaf, gan obeithio cyrraedd y ffeinal fawreddog ar lwyfan Pafiliwn Bont, Pontrhydfendigaid. Bydd yr enillydd yn erbyn £1,000 i dalu am hyfforddiant i’w talent.

Ond, yn wahanol i raglenni talent eraill, pobl ifanc fydd y beirniaid! Mae tynged pob perfformiwr yn nwylo bechgyn a merched yr un oedran â nhw.

“Dwi’n meddwl y bydd pobl ifanc yn fwy parod i siarad eu meddwl, a dweud eu dweud yn onest am beth maen nhw yn ei hoffi neu ddim yn ei hoffi,” meddai Tara, “Gallai fod yn fuddiol iawn, neu fe all achosi ambell ddeigryn!”

Bydd Tara wrth law i gynnig cysur i unrhyw gystadleuydd siomedig. Mae hithau wedi profi’r un teimladau fel cystadleuydd ar gyfres I’d Do Anything y BBC.

“Dwi’n gwybod sut beth ydy sefyll o flaen y beirniaid ar raglen deledu, ac yn gwybod nad dyna’r teimlad gorau yn y byd!” ychwanega, “Dwi’n gobeithio y galla i gynnig cyngor iddyn nhw hefyd. Mae’n mynd i fod yn wych!”

Llun: Tara Bethan

Rhannu |