Teledu

RSS Icon
15 Medi 2011

Ysgoloriaeth Bryn Terfel

BYDD wyth o brif enillwyr Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Abertawe a’r Fro 2011 yn ymgiprys am  Ysgoloriaeth Bryn Terfel eleni, sy’n werth £4,000. Darlledir yr holl gyffro yn fyw o Stiwdio’r Ddraig, Pencoed, nos Sul, Medi 25, ar S4C, gyda Nia Roberts ac Ifan Jones Evans yn cyflwyno.

Cyn hynny, ar nos Sadwrn, Medi 24, mi fyddwn ni'n cael cyfle i ddod i adnabod y cystadleuwyr yn well mewn rhaglen arbennig fydd yn dilyn y paratoadau ar gyfer y noson fawr, yn cynnwys y gweithdai gyda’r arbenigwyr fydd yn mentora’r cystadleuwyr.

Mae’r cystadleuwyr eleni yn dod o Landrillo-yn-rhos, Llandysul, Y Bontfaen, Pentir ger Bangor, Rhydymain, Pencader, Nebo ger Caernarfon, a Chaerdydd.

Yr wyth fydd yn mynd amdani yw Siân Crisp (enillydd Unawd o Sioe Gerdd 19-25 oed), Glain Dafydd (Unawd Offerynnol 19-25 oed), Rhian Davies (Llefaru Unigol 19-25 oed), Huw Ynyr Evans (Unawd Cerdd Dant 19-25 oed), Steffan Jones (Unawd 19-25 oed), Elen Morgan (Cyflwyniad Theatrig Unigol 19-25 oed), Anna Pardanjac (Dawns Werin Unigol i ferched dan 25 oed), ac Ellen Williams (Cyflwyno Alaw Werin Unigol 19-25 oed).

Aelodau’r panel beirniaid fydd y tenor, Rhys Meirion; yr actorion Emyr Wyn a Rhodri Miles; y delynores Meinir Heulyn; yr arbenigwraig canu gwerin, Nia Clwyd; a’r arbenigwr dawns, Mansel Phillips.

Meddai Rhys Meirion, "Dyma tro’r cyntaf i mi fod yn un o feirniaid yr Ysgoloriaeth a dwi’n edrych ymlaen at y profiad yn fawr iawn. Dwi’n ei hystyried hi’n anrhydedd cael bod yn rhan o’r gystadleuaeth bwysig hon sydd wedi hen ennill ei phlwy ac sy’n ennyn parch cenedlaethol.

"Mae’n bwysig bod y bobl ifanc yn trin y gystadleuaeth fel cyngerdd. Mi fyddwn ni’n chwilio am berfformiad fydd yn ein hargyhoeddi, yn chwilio am rywun fydd yn cyffwrdd y dychymyg ac yn dangos potensial."

Mae grŵp mentoriaid y gystadleuaeth yr un mor brofiadol. Y rhai fydd yn cynnig cyngor gwerthfawr i’r cystadleuwyr fydd y cantorion Paul Carey Jones, Aled Hall, John Owen Jones, ac Wynne Evans; y telynor Ieuan Jones, y cyfarwyddwr theatr a theledu, Elen Bowman; yr actor Ifan Huw Dafydd a’r ddawnswraig Lowri Walton.

 

Meddai Bryn Terfel: "Mae’n bleser mawr gennyf fod yn gysylltiedig â’r Ysgoloriaeth hon, gan wybod bod yr Urdd yn parhau i ffynnu ac ehangu a rhoi llwyfan i bobl ifanc Cymru feithrin a hyrwyddo eu doniau amrywiol drwy gyfrwng ystod eang o weithgareddau cyffrous ac arloesol."

 

Manylion y cystadleuwyr yn dilyn isod.

Siân Crisp: Daw Siân o Nebo yn Nyffryn Nantlle, ac mae â’i bryd ar berfformio yn y West End ers iddi fod yn saith oed. Mae’n gobeithio cael ei derbyn i’r Academi Gerdd Frenhinol yn Llundain eleni. Mae wedi profi llwyddiant ar lwyfannau yng Nghymru ac wedi cael cyfleoedd i ddatblygu ei doniau a’i phrofiadau dros y ffin. Perfformiodd mewn cyngerdd mawreddog gyda Charlotte Church, ac mae hefyd wedi canu deuawd gyda Michael Ball yn yr Hammersmith Apollo yn Llundain. Bu hefyd yn dirprwyo dros y cymeriad Ginny Weasley yn y ffilm Harry Potter and the Deathly Hallows (part 2).

 

Glain Dafydd: Wedi ei magu ym mhentref Pentir ger Bangor, mae Glain wedi hen arfer â pherfformio a chystadlu, yng Nghymru ac yn rhyngwladol. Mae eisoes wedi ennill Tlws y Telynor, Ysgoloriaeth Simms yr Urdd a’r Rhuban Glas offerynnol yn Eisteddfod Genedlaethol Blaenau’r Cymoedd y llynedd. Mae’n astudio ym mhrifysgol Ecole Normale de Musique de Paris ar hyn o bryd, yn cael ei hyfforddi gan y delynores ryngwladol, Isabelle Perrin.

 

Rhian Davies: Yn enedigol o Bencader, Sir Gâr, mae Rhian wedi bod yn aelod gweithgar o’r Urdd a chlwb Ffermwyr Ifanc Llanllwni ers blynyddoedd. Fe’i dyfarnwyd yr actores orau o dan 18oed yng nghystadleuaeth Hanner Awr o Adloniant Cymru C.FF.I yn Theatr y Grand, Abertawe, eleni. Mae Rhian ar ei hail flwyddyn ym Mhrifysgol Aberystwyth ac yn aelod blaenllaw o Aelwyd Pantycelyn.

 

Huw Ynyr Evans: Mab fferm o Ryd-y-main ger Dolgellau yw Huw sy’n fyfyriwr ym Mhrifysgol Bangor, yn dilyn cwrs gradd BMus mewn Cerdd a Chymraeg. Yn gystadleuydd brwd mewn Eisteddfodau lleol a chenedlaethol, mae Huw wedi profi llwyddiannau cyson yn Eisteddfod yr Urdd, y Genedlaethol, cystadlaethau’r Ffermwyr Ifanc a’r Ŵyl Gerdd Dant. Mae Huw wedi perfformio fel unawdydd gwadd gyda Chôr Godre’r Aran, Band yr Oakeley ac mewn cynyrchiadau ysgol.

 

Steffan Jones: Ganwyd Steffan Jones yng Nghaerdydd, ond bellach mae’n byw yn Llundain lle bu’n astudio yn y Coleg Cerdd Brenhinol. Ymhlith y rhannau opera y mae Steffan wedi eu perfformio mae Eliab yn David and Goliath, William yn The Fall of the House of Usher (New Chamber Opera Studio) a’r Barnwr Turpin yn Sweeney Todd (Opera Ieuenctid Cenedlaethol Cymru).

 

Elen Morgan: Mae Elen, sy’n dod o Landysul, wedi bod yn perfformio ers iddi fod yn bedair oed. Bu’n aelod o Ysgol Berfformio Dyffryn Tywi o dan arweiniad Delyth Medi. Bu’n actio’r cymeriad Lydia ar y gyfres Pobol y Cwm am gyfnod, ac mae nawr yn gweithio ar gyfres newydd o Rownd a Rownd. Yn ogystal â’i gwaith actio, mae Elen wedi perfformio fel unawdydd ar raglen Noson Lawen, ac fel cantores gefndirol ar Cân i Gymru.

 

Anna Pardanjac: Daw Anna o Landrillo-yn-rhos ger Bae Colwyn. Mae’n fyfyrwraig ym Mhrifysgol Caerdydd yn astudio gradd mewn Therapi Lleferydd. Yn y dyfodol fe fyddai’n hoffi cyfuno ei gyrfa fel Therapydd Lleferydd gyda’i chariad o ddawns trwy ddysgu dawnsio yn ei amser hamdden.

 

Ellen Williams: Daw Ellen o’r Bontfaen ym Mro Morgannwg. Mae’n fyfyrwraig ym Mhrifysgol Caerwysg, yn dilyn cwrs gradd mewn Sbaeneg a Ffrangeg. Fel rhan o’i chwrs, mae Ellen draw ym Mhrifysgol Oviedo yn Asturias, Gogledd Sbaen, ar hyn o bryd. Bydd hefyd yn treulio cyfnod yn Ffrainc dros yr haf y flwyddyn nesaf cyn dychwelyd i Gaerwysg i orffen ei chwrs. Ar ôl graddio, mae Ellen yn gobeithio mynd i goleg cerdd i ddilyn cwrs ôl radd mewn canu.

 

Ysgoloriaeth Urdd Gobaith Cymru Bryn Terfel 2011

Nos Sadwrn 24 Medi 21.00, S4C

Nos Sul 25 Medi 18.30, S4C (cyhoeddir enw’r enillydd am 22.00)

Isdeitlau Saesneg

Gwefan:s4c.co.uk/ysgoloriaethbrynterfel

Ar alw: s4c.co.uk/clic

Cynyrchiadau Avanti ar gyfer S4C

Rhannu |