Teledu

RSS Icon
18 Chwefror 2011

Byw yn y byd


YN y gyfres newydd Byw yn y Byd ar S4C cawn ddilyn Russell Jones ar antur fawr i Affrica i gwrdd â’i phobl ac i weld sut maen nhw’n goroesi gydag adnoddau prin iawn.

Yn ymuno ag ef ar y daith bydd cynrychiolwyr o’r elusennau Cymorth Cristnogol a Cafod. Maen nhw’n cefnogi cynlluniau sy’n rhoi addysg ac adnoddau i bobl allu tyfu eu bwyd eu hunain, a magu geifr ac ieir ar gyfer eu bwyta a’u gwerthu. Y gobaith yw paratoi pobl i allu goroesi yn well drwy gyfnodau anodd o sychdwr.

Bydd y daith yn dechrau yn Kenya ar nos Fercher 23 Chwefror am 8.25pm, wrth i Russell dreulio wythnos yn byw gyda thyddynwyr yn ardal Mbeere o’r wlad. Bydd Russell yn torchi llewys i helpu’r teulu wrth eu gwaith bob dydd a rhannu jôc gyda’i ffrind newydd sef Chief y pentref.

“Doeddwn i ddim yn gwybod be’ i ddisgwyl,” meddai Russell, oedd ond wedi bod dramor unwaith o’r blaen. “Ond roedd pawb mor gyfeillgar ac isho gwybod popeth amdanon ni. Ro’n i’n teimlo’n gartrefol iawn, yn enwedig gyda’r holl ieir oedd o gwmpas.

“Er hyn, mae’n wlad greulon. Ym Mbeere roedden nhw wedi disgwyl tri mis o law, ond wnaeth hi ‘mond glawio am ddeuddydd. Mae’r bobl yn gwneud y gorau gyda’r ‘chydig sydd ganddyn nhw.

“Doedd ganddyn nhw ddim trydan na dŵr yn llifo i’r tŷ, ond roedd gan bawb mobile phone! Byddan nhw’n mynd â’r ffôn i siop arbennig yn y dre i chargeio’r batri. Dyna oni licio amdanyn nhw. Roedden nhw’n ffeindio ffordd rownd bob problem!”

Y tu ôl i’r camera, ac wedi i’r ffilmio orffen am y dydd, roedd Russell yn gweld tebygrwydd mawr rhwng ei fywyd ef a’r ffordd roedd pobl yn byw yn Affrica, gan drin y tir a byw oddi arno.

“Dwi’n meddwl eu bod nhw’n gweld mod i ‘run fath â nhw,” meddai Russell. “Dim pob ymwelydd tramor fyddai’n cynnig lladd a phluo’r ieir iddyn nhw i swper!”

Mae hefyd yn credu fod gan Gymry lawer i’w ddysgu o’u ffordd nhw o fyw.

“Dwi’n meddwl byddai mynd i Affrica yn gwneud lles i lot o bobl y wlad yma. Mae pobl ym Mhrydain yn cwyno gormod bod eu bywydau nhw’n galed, ond baswn i’n licio’u gweld nhw yn trio byw yn Affrica,” meddai Russell, sydd ei hun wedi elwa tipyn o’r profiad.

“Roedd y trip yn gyfle i fi gasglu syniadau fresh ac mae o wedi gosod her newydd i mi wneud yn well. Os ydy’r bobl wnes i gyfarfod yn Affrica yn gallu goroesi efo cyn lleied sydd ganddyn nhw, yna does gen i ddim lle i gwyno.”

Mae Byw yn y Byd yn dechrau ar nos Fercher 23 Chwefror am 20:25.

 

Llun: Russell Jones

Rhannu |