Teledu

RSS Icon
09 Medi 2011

Coleg yn gefndir delfrydol i raglen deledu

Roedd tiroedd hardd coleg yng Ngogledd Cymru yn darparu “cefndir ysblennydd” wrth i gwmni gwneud trelars mwyaf Ewrop ymddangos mewn rhaglen deledu boblogaidd.

Cwmni Ifor Williams Trailers yw seren y sioe yn y gyfres ddiweddaraf o’r gyfres boblogaidd am ffermio a chefn gwlad, Ffermio, ar S4C.

Bydd modd ennill tri o drelars mwyaf poblogaidd y cwmni mewn cystadleuaeth arbennig ar Ffermio.

Trelar wartheg TA510 12 troedfedd gwerth £4,956 yw’r wobr gyntaf, gyda rhaniad ar ei thraws a fflap blaen, trelar ceffylau HB506 gwerth £4,656 yw’r ail wobr a threlar P6E gwerth £804 yw’r drydedd wobr.

Digwyddodd y gwaith ffilmio yng Ngholeg Llysfasi, sy’n rhan o Grŵp Coleg Glannau Dyfrdwy o Golegau, yng nghanol prydferthwch Dyffryn Clwyd.

Dywedodd Iorwerth Roberts, pennaeth gwerthiant Ifor Williams Trailers yng Ngogledd Cymru, eu bod yn gwerthfawrogi’r bartneriaeth gyda Ffermio yn fawr.

Meddai: “Rydym wrth ein bodd o gael cyfle i ymwneud â’r rhaglen Ffermio eto eleni.

 

“Rydym wedi cael cefnogaeth anhygoel dros y blynyddoedd gan ein cwsmeriaid ffyddlon ac felly teimlwn ei bod yn hollbwysig ein bod yn cefnogi’r gymuned wledig – ac mae Ffermio wedi rhoi ffordd wych i ni roi rhywbeth yn ôl.”

 

Yn ôl Telesgop, y cwmni cynhyrchu sy’n gwneud y rhaglen, maen nhw’n disgwyl ymgeiswyr o bob cwr o’r DU.

Dywedodd Meinir Jones, sy’n cyflwyno’r rhaglen Ffermio: “Mae’r trelars yn wobrau gwych i’r rhaglen ac rydym yn ddiolchgar dros ben i Ifor Williams Trailers.

“Mae yna wastad ddiddordeb aruthrol yn y gystadleuaeth – bydd miloedd yn cystadlu bob blwyddyn, dros y rhyngrwyd neu drwy’r post.

“Roedd tiroedd y coleg yn lleoliad perffaith ar gyfer y gwaith ffilmio - mae’n ardal eithriadol o hardd.

“Gwyddom hefyd fod y gwylwyr yn gwerthfawrogi’r gystadleuaeth oherwydd byddwn yn cael miloedd o geisiadau ac mae’r niferoedd yn cynyddu o un flwyddyn i’r llall. Mae poblogrwydd y gystadleuaeth yn siarad cyfrolau am boblogrwydd y trelars.”

“Gan fod pobl o’r tu draw i Gymru’n gallu gwylio rhaglenni S4C ar Sky a Freesat yn ogystal ag ar y rhyngrwyd ar ôl iddyn nhw gael eu darlledu, mae llawer o bobl o bob cwr o’r DU yn gwylio.”

Meddai Dewi Jones, y Rheolwr Fferm ar safle Llysfasi: “Mae Ifor Williams Trailers yn gwmni lleol i ni ac rydym yn hapus iawn o’u gweld nhw yma heddiw.

“Rwy’n siŵr y bydd y gystadleuaeth yn hynod o boblogaidd - mae’r trelars yn wobrau eithriadol o dda."

Dywedodd David Jones, Pennaeth Grŵp Coleg Glannau Dyfrdwy: “Rydym wrth ein bodd o barhau â’n cysylltiad gydag Ifor Williams Trailers a Ffermio a’u croesawu i ffilmio ar ein stad yng Ngholeg Llysfasi.

“Rydym yma ar gyfer holl ffermwyr a diwydiannau tir Gogledd Cymru ac rydym yn falch o’n cysylltiadau gyda chwmni mor flaenllaw a mentrus ag Ifor Williams Trailers.”

 

Llun: Y gŵr camera Geoff Lloyd a Geraint Williams o Ifor Williams Trailers

Rhannu |