Teledu
Wyneb yn wyneb ag Owain Glyndŵr
FE fydd rhaglen ddogfen ar S4C yn datgelu gwir wyneb yr arwr cenedlaethol Owain Glyndŵr am y tro cyntaf ar deledu ar Ddydd Gŵyl Dewi.
Bydd y rhaglen Wyneb Glyndŵr yn mynd â ni ar siwrnai gyffrous i ail-greu wyneb y Tywysog Cymreig o’r Oesoedd Canol gan ddefnyddio’r dechnoleg gyfrifiadurol 3D a CGI (computer generated imaging) ddiweddara’.
Fe ddechreuodd Owain Glyndŵr wrthryfel yn erbyn Coron Lloegr yn 1400 a hawlio mai fe oedd Tywysog Cymru – ond does neb yn gwybod sut roedd yn edrych. Mae’r ddogfen ar S4C ar 1 Mawrth ar fin newid hynny.
Wedi’i chyflwyno gan yr actor Hollywood adnabyddus, Julian Lewis Jones, mae’r dirgelwch yn dechrau nes at adre’ yng Nghorwen a Chaerdydd, ond mae rôl arbenigwr yn America a darganfyddiad rhyfeddol mewn hen archif ym Mharis yn rhoi blas rhyngwladol i’r siwrnai.
Mae’r ymchwiliad yn cynnwys defnyddio technegau dad-heneiddio sy’n cael eu defnyddio gan asiantaethau fel yr FBI i ddatrys achosion o gipio plant.
Mae Julian – sy’n cyflwyno’r ddogfen yn steil y ditectif carismatig Indiana Jones – yn ymchwilio i gysylltiadau agos Glyndŵr â’r teulu Scudamore. Fe gawn weld sut y gall darganfyddiad a wnaed yng nghartre’ hynafol y teulu arwain at ddatrys y dirgelwch 600 mlwydd oed.
Cwmni Wild Dream Films o Gaerdydd sy’n gyfrifol am y rhaglen, gyda’r cyfarwyddwr adnabyddus o Gasnewydd, Stuart Clarke, yn cyfarwyddo a Sion Hughes yn cynhyrchu.
Roedd Stuart Clarke yn aelod allweddol o’r tîm a gynhyrchodd y gyfres deledu arobryn Death Masks ar History Channel US. Fe wnaeth y gyfres ail-greu wynebau Abraham Lincoln, George Washington a William Shakespeare. S4C yw’r darlledwr cyntaf ym Mhrydain i ddefnyddio technegau tebyg a hynny ar y rhaglen hon, Wyneb Glyndŵr.
Fe ddechreuodd y broses o greu pen Glyndŵr trwy greu masg sylfaenol o’i gofgolofn farmor yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd. Fe wnaed ymchwil manwl wedyn i nodweddion wyneb yr arwr gan gasglu tystiolaeth o destunau hynafol, llyfrgelloedd a hen luniau.
O dan arweinid Antonis Kotsias, fe ddefnyddiodd tîm graffeg o Wlad Groeg y technegau CGI diweddara’ i ail greu pen Glyndŵr ar sail gwaith ymchwil. Fe wnaeth y data gael eu defnyddio gan artistiaid 3D i greu model 3D o’r pen gan ychwanegu’r croen, llygaid a’r gwallt.
Meddai’r cyfarwyddwr Stuart Clarke: “Rydyn ni wedi magu enw da ledled y byd wrth ddefnyddio technegau arloesol fel CGI i gyflwyno hanes.
“Trwy ddefnyddio’r dull hwn, fe wnaethom ni ail-greu wyneb un o enwau mawr hanes Cymru. Am 600 mlynedd, nid oedd gennym wyneb ar gyfer Glyndŵr – ond mae hynny nawr wedi newid, diolch i ni ac S4C.”
Ychwanegodd Tweli Griffiths, Golygydd Cynnwys Ffeithiol S4C: “Mae gan raglenni dogfen arloesol y pŵer i greu hanes yn ogystal â’i gofnodi – ac mae hon yn un rhaglen sy’n llwyddo i wneud hynny. Rydym yn falch o gael cydweithio gyda Wild Dream Films i gyflwyno wyneb arwr cenedlaethol i bobl Cymru ar Ddydd Gŵyl Dewi.”
Wyneb Glyndŵr, Nos Fawrth, Mawrth 1, 21.00, S4C, Isdeitlau Cymraeg a Saesneg, s4c.co.uk/ffeithiol. Ar alw: s4c.co.uk/clic
Llun: Julian Lewis Jones