Teledu

RSS Icon
25 Awst 2011

Darlledu Cwpan Rygbi'r Byd

Mae S4C wedi cyhoeddi amserlen rhaglenni’r Sianel o Gwpan Rygbi’r Byd 2011 yn Seland Newydd ym misoedd Medi a Hydref.

Bydd y Sianel yn darlledu cyfanswm o naw gêm yn fyw - gan gynnwys pob un o gemau Cymru yn adran y grwpiau ac un gêm ymhob un o’r rowndiau terfynol.

Bydd gwasanaeth S4C Cwpan Rygbi’r Byd 2011 hefyd yn cynnwys y seremoni agoriadol a’r gêm agoriadol rhwng Seland Newydd a Tonga, y Ffeinal a’r Ffeinal Efydd am y drydydd safle yn y bencampwriaeth.

Yn ogystal â dangos y gemau yma’n fyw yn y boreau, bydd S4C yn darlledu rhaglenni uchafbwyntiau yn yr hwyr ar ddiwrnod y gêm.

Bydd rhaglenni’r hwyr yn cynnwys uchafbwyntiau estynedig o gemau Cymru, uchafbwyntiau gemau eraill a thrafodaeth fyw gyda phanel o arbenigwyr. Bydd gwahoddiad hefyd i’r gwylwyr roi eu barn a holi’r panelwyr drwy wahanol ddulliau cyfathrebu gan gynnwys y ffôn, neges destun, Twitter – drwy ddefnyddio #rygbi – a Facebook.

Ymhlith tîm cyflwyno S4C bydd Gareth Roberts ac Arthur Emyr, y sylwebwyr Wyn Gruffydd a Derwyn Jones, y dadansoddwyr Gwyn Jones a Brynmor Williams gyda sylwadau pellach gan y cyn-chwaraewyr rhyngwladol, Emyr Lewis a Jonathan Davies.

Yn ymuno a thîm cyflwyno rhaglenni’r nos, bydd y cyflwynydd, Carys Davies. Hi fydd yn trosglwyddo ymateb a chwestiynau’r cyhoedd i’r panelwyr.

Ceir adroddiadau o bersbectif Hemisffer y De gan Delyth Morgan, cyn-aelod o dîm rygbi rhyngwladol Cymru sydd nawr yn byw yn Seland Newydd.

Yn gysylltiedig â’r rygbi, bydd sioe rygbi boblogaidd Jonathan yn dychwelyd am gyfres o saith rhaglen. Ymhob sioe, bydd Jonathan Davies a’r tîm yn rhoi rhagolwg o gemau Cymru a gemau’r rowndiau terfynol yn eu ffordd ddigri a dihafal eu hunain.

Bydd y rhaglenni byw yn cynnwys adroddiadau cyn pob gêm ac ar ôl y chwarae yn ogystal â chyfweliadau o wersyll y Cymry, wrth i’r tîm cenedlaethol wynebu De Affrica, Ffiji, Samoa a Namibia yng Ngrŵp D.

Bydd adroddiadau ar-lein o du fewn gwersyll y Cymry ar wefan S4C, s4c.co.uk/rygbi. Cynigir y gwasanaeth hwn mewn cydweithrediad ag Undeb Rygbi Cymru.

Ar y wefan hefyd bydd blogiau fideo dyddiol - gyda cyfraniadau gan y cyflwynwyr, chwaraewyr a’r rheolwyr - uchafbwyntiau o bob un o gemau Cymru, a fideo yn crynhoi’r gemau ym mhob grŵp. Mae hyn yn ogystal ag amserlen gemau Cymru, proffil o’r chwaraewyr a’r cyflwynwyr, a sylwadau diweddaraf y cyflwynwyr ar Twitter.

Gall gwylwyr S4C weld gêm Cymru yn erbyn De Affrica yn fyw o Stadiwm Ranbarthol Wellington ar 11 Medi, Cymru v Samoa o Stadiwm Waikato, Hamilton ar 18 Medi, Cymru v Namibia o Stadiwm Taranaki, New Plymouth ar 26 Medi a Chymru v Ffiji o Stadiwm Waikato, Hamilton ar 2 Hydref.

Cynhelir y gemau Gogynderfynol ar 8 a 9 Hydref, y gemau Cynderfynol ar 15 a 16 Hydref, y Ffeinal Efydd am y trydydd lle ar 21 Hydref a’r Ffeinal yn Eden Park, Auckland ar 23 Hydref.

Meddai Geraint Rowlands, Golygydd Cynnwys Chwaraeon S4C: “Rydym yn falch iawn i gyhoeddi ein harlwy cyffrous o Gwpan Rygbi’r Byd 2011 fydd yn cynnwys naw gêm fyw a phecyn uchafbwyntiau estynedig.

“Bydd S4C yn darlledu gemau Cymru ac yn edrych ar y twrnamaint o bersbectif Cymreig a gyda golwg ar wersyll carfan Cymru o’r tu fewn.

“Yn ogystal â’r gemau byw yn y boreau, byddwn yn darlledu uchafbwyntiau estynedig o gemau Cymru yn yr oriau brig gyda’r nos. Bydd y rhaglen hon yn cynnig platfform i wylwyr gael dweud eu dweud ac i holi panel o arbenigwyr ynglŷn â’r Bencampwriaeth.”

Rhannu |