Teledu

RSS Icon
16 Mai 2017

Golwg ar 24 awr olaf gyrfa rygbi liwgar Mike Phillips

Ar ôl gyrfa broffesiynol yn ymestyn 14 mlynedd, fe ddaeth amser Mike Phillips ar y cae rygbi i ben yn ddiweddar wrth iddo chwarae ei gêm olaf dros ei dîm, Sale Sharks. Wedi 99 cap a 10 cais rhyngwladol, 2 daith y Llewod a 3 Camp Lawn, mae'r amser wedi dod iddo rhoi’r bŵts o’r neilltu.

Cawn gip ar 24 awr olaf gyrfa gyffrous a lliwgar Mike wrth iddo ffarwelio â'r gamp, yn y rhaglen ddogfen Mike Phillips: Y Gêm Olaf, nos Sadwrn 20 Mai ar S4C.

Stadiwm AJ Bell ym Manceinion oedd y lleoliad ar gyfer y gêm olaf ac mi oedd yr achlysur yn un chwerw-felys i gyn fewnwr Cymru a Llewod Prydain ac Iwerddon, wrth i'w dîm gael buddugoliaeth wych dros Bath.

Dywedodd Mike: "Roedd o'n ddiwrnod emosiynol iawn ac fe aeth e'n eitha' clou. Daeth fy nheulu a'n ffrindiau lan i wylio, ac roedd e'n grêt cael nhw yno. Aeth y gêm yn dda hefyd felly roeddwn i'n hapus iawn gyda sut aeth y diwrnod.

"Mae'r corff yn dweud wrtha i fod yn rhaid i mi bennu ac nawr yw'r adeg iawn. Fi 'di 'neud bob dim roeddwn i moyn gwneud; fi 'di chwarae dros Gymru a'r Llewod. Fi 'di cael send off dda gan y Sale Sharks a fi'n hapus iawn 'da hynny. Ond nawr rwy'n edrych ymlaen at y dyfodol."

Mae'r mab fferm o Fancyfelin wedi cael gyrfa liwgar ar, ac oddi ar, y cae ac wedi creu penawdau ar dudalennau blaen y papurau newydd yn ogystal â’r rhai ôl. Felly a fydd e'n gweld eisiau rhai agweddau o'i fywyd fel un o brif arwyr chwaraeon Cymru dros y degawd diwethaf?

"Mae gan chwaraewyr rygbi proffesiynol ffordd o fyw breintiedig iawn a bydda i'n siŵr o'i methu," meddai Mike. "Y laughs a'r craic ti'n cael yn ymarfer bob dydd a bod yn rhan o dîm. Ti'n mynd i'r gwaith bob dydd ond nid gwaith yw e rili. Ti'n gweithio'n galed wrth gwrs, ond ti'n cael lot o sbort a ti'n mynd ar y cae ymarfer ac i gemau gyda dy ffrindiau.

"Ond mae o wedi bod yn intense dros y blynyddoedd. Mae'r tymhorau mor hir ac roeddwn i wastad bant ar daith ryngwladol yn ystod yr haf, i wahanol rannau o'r byd. Fydda i ddim yn gweld eisiau'r sesiynau hyfforddi caled. Ar y cae ymarfer ac wrth chwarae mae'n rhaid i ti wthio dy hunan i'r limit bob dydd a fi 'di 'neud e ers blynydde. Nawr fi'n edrych ymlaen at ymlacio a mwynhau fy mywyd."

Felly, yn 34 oed ac yn edrych am swydd 'arferol', tybed i ba gyfeiriad aiff gyrfa Mike - i'r byd modelu efallai?

"Na, sa i'n credu, dim o gwbl. Fi'n siarad efo lot o bobl am yr opsiynau sydd gen i. Yn sicr, hoffwn i aros yn y gêm mewn rhyw ffordd. Fi'n siŵr bydda i'n gwneud tipyn bach o hyfforddi a gwaith yn y cyfryngau, ond does dim cynllun pendant eto. Y peth cyntaf dwi am 'neud yw ymlacio a threulio amser gyda ffrindiau a theulu."

Mike Phillips: Y Gêm Olaf. Nos Sadwrn 20 Mai 8.30, S4C. Cynhyrchiad Orchard ar gyfer S4C

Rhannu |