Teledu

RSS Icon
08 Mai 2017

Rhagolygon ffafriol ar gyfer cyflwynydd newydd Y Tywydd

BOED law neu hindda, mae’r rhagolygon yn ffafriol ar gyfer cyflwynydd newydd Y Tywydd ar S4C, Megan Williams.

Roedd Megan yn rhan o dîm cynhyrchu’r Tywydd am saith mlynedd cyn dechrau ei rôl newydd ar y sgrin. Bydd hi’n ymuno â’r cyflwynwyr profiadol Chris Jones a Steffan Griffiths i gyflwyno’r bwletinau ar S4C.

Mae hi’n adeg gyffrous i Megan a’r tîm wrth i bartneriaeth newydd ddatblygu rhwng S4C a’r Swyddfa Dywydd.

“’Dan ni mewn partneriaeth efo’r Swyddfa Dywydd ers mis Tachwedd ac maen nhw’n gwmni sy’n arwain o ran darogan y tywydd. Dwi’n edrych ymlaen at ddysgu mwy am y system. Mae’r graffeg a data newydd yn arloesol ac mae’r posibiliadau yn anferth,” meddai Megan.

O bentref Chwilog yn Eifionydd y daw Megan yn wreiddiol a sylweddolodd yn oedran ifanc effaith y tywydd ar fywydau’r bobl o’i chwmpas.

“Mae’r tywydd wastad wedi bod yn rhan o’m bywyd. Ro’dd gan fy nhad gwch bysgota ac ro’n i’n mynydda dipyn pan o’n i adra felly roedd angen i ni wybod sut byddai’r tywydd yn datblygu.”

Heddiw, mae Megan yn deall yn iawn sut mae’r tywydd yn gallu effeithio ar fywydau a bywoliaeth pobl o ddydd i ddydd gan mai amaethu mae teulu ei gŵr.

“Mae teulu’r gŵr wedi agor fy llygaid o ran sut mae pobl wir yn gweithio efo’r tywydd. Maen nhw’n ddibynnol ar ryw fath arbennig o dywydd er mwyn cyrraedd eu nod.”

Er mai’r nod ar gyfer pob gwasanaeth tywydd yw darogan yn fanwl gywir pob tro, mae Megan a thîm Tywydd S4C yn cydnabod nad yw hynny’n bosib o hyd – ac mae pobl yn barod i leisio barn pan fydd hynny’n digwydd.

“Mae Twitter yn lle grêt i gael gwybod os ydan ni wedi’i chael hi’n iawn, yn enwedig yn y Steddfod, y Sioe a’r Ffair Aeaf! Mae’n rhaid i ni ei gael o’n gywir achos mae pobl yn cymryd ein gair ni,” cyfaddefa.

Pan na fydd Megan yn cyflwyno’r tywydd, bydd hi’n treulio’i hamser rhydd yn paratoi i redeg Hanner Marathon Caerdydd.

Mae hi hefyd wedi gosod sialens i’w hun i gwblhau Her y Tri Chopa – dringo’r Wyddfa, Cader Idris a Phen y Fan mewn un diwrnod.

Ac mae’n croesi bysedd am dywydd braf wrth iddi ymgymryd â’r her!

Gallwch weld Megan ar y sgrin yn un o’r bwletinau tywydd cyson ar S4C.

Ar gyfer y rhagolygon diweddaraf, ddydd a nos, defnyddiwch wefan s4c.cymru/tywydd neu ap S4C Tywydd ar gyfer iPhone, iPad a dyfeisiadau Android.

Rhannu |