Teledu

RSS Icon
28 Ebrill 2017

Dysgu byw gydag iselder – stori Matt Johnson

I bawb o’i gwmpas, roedd ei fywyd yn berffaith; ac yntau’n ddyn ifanc, golygus a oedd yn mwynhau gyrfa ar deledu. Ond, i Matt Johnson, roedd cymylau duon yn ei boeni’n ddyddiol; roedd yn dioddef o iselder ac yn 2009 daeth yn agos at gyflawni hunanladdiad. 

“Ar y tu fewn ro’n i’n numb,” meddai Matt Johnson, y cyflwynydd 34 oed o Gaerffili, sydd wedi dod yn wyneb cyfarwydd ar deledu Prydeinig ar raglenni fel This Morning. “O’n i mewn lle tywyll iawn. Ro’n i’n teimlo bod popeth yn fy erbyn i, ac y byddai’r byd yn well hebddo i.”

Fel rhan o wythnos o raglenni ar S4C sy’n annog sgwrs am iechyd meddwl, bydd Matt Johnson: Iselder a Fi ar S4C nos Fercher, 10 Mai, yn adrodd ei stori. 

Am flynyddoedd, fe guddiodd ei iselder, a’r ffaith iddo ystyried cymryd ei fywyd, yn gyfrinach wrth bawb. Dechrau siarad yn agored am ei broblemau oedd y cam cyntaf er mwyn dysgu byw gyda’i iselder. 

Meddai Matt: “Na’th e gymryd sbel i fi siarad yn onest am sut ro’n i’n teimlo. Ac i rywun sy’n cael ei dalu bob dydd i siarad – mae hynna’n hollol nyts! Ond mae e’n wahanol siarad am dy deimladau, ac er bod hynny’n anodd iawn, dyna oedd y peth gorau wnes i erioed.”

Pedair blynedd wedi’r cyfnod tywyll hwnnw, penderfynodd Matt siarad yn gyhoeddus am ei iselder, mewn cylchgrawn cenedlaethol ac yna mewn sgwrs gyda’i gydweithwyr agosaf ar sioe foreol ITV This Morning.

Dywedodd ei ffrind a’i gyd-gyflwynydd Eamonn Holmes: “When we learnt we were to interview Matt on This Morning about his depression, I knew nothing about it… I felt I had let him down, because I had no idea.”

Mae Matt bellach yn teimlo’n angerddol dros geisio annog eraill i siarad yn onest am iechyd meddwl. Yn 2014 daeth yn llysgennad i’r elusen Mind, sy’n ceisio codi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o broblemau iechyd meddwl ac mae Matt yn arbennig o awyddus i gael gwared â’r stigma ymysg dynion ifanc.

Yn y rhaglen bydd yn ymweld â chriw o fyfyrwyr chweched dosbarth Ysgol Gyfun Plasmawr i weld a ydy agweddau’r to iau tuag at iechyd meddwl yn newid.

Bydd Matt hefyd yn ymweld â’r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl sy’n gwneud ymchwil cyffrous i’r cysylltiad rhwng patrymau cwsg ac iselder. Mae ei ymweliad yn cael effaith fawr ar ffordd o fyw Matt.

Ymhlith eraill y bydd yn siarad â nhw mae ei gyfaill Tom Fletcher o’r bandiau byd-enwog McFly a McBusted sydd yn sôn am ei frwydr yntau gyda’i iechyd meddwl, a’r gyflwynwraig Nia Parry fu’n gweithio gydag ef ar gyfresi Cariad@Iaith ac sydd wedi dod yn gyfaill agos.

Bydd Matt hefyd yn trafod gyda’i dad Gary, sydd yn siarad yn gyhoeddus am y tro cyntaf erioed am ei brofiadau yntau o fyw gydag iselder ers dros 20 mlynedd. Mae ei eiriau ef yn crynhoi pa mor hawdd yw cuddio, neu beidio â sylwi, ar symptomau iselder.

Meddai Gary: “Os oes gennyt ti ddolur, rwyt ti’n rhoi rhwymyn amdano. Os wyt ti’n torri asgwrn dy goes, rwyt ti’n rhoi cast plastr amdani. Ond, gydag iselder, dwyt ti ddim yn gweld y dioddef.” 

Mae Matt Johnson: Iselder a Fi yn rhan o Wythnos Iechyd Meddwl S4C rhwng 8 a 14 Mai. Hefyd yn yr wythnos mae’r rhaglen O’r Galon: Gyrru Drwy Storom sy’n bortread dewr gan fam sy’n credu’n gryf bod angen trafod iselder ar ôl geni babi, a’r rhaglen Colli dad, siarad am hynna am fab sy’n  trafod hunanladdiad ei dad a pham ei bod hi mor anodd siarad am iechyd meddwl. Bydd Heno, Ffermio a Newyddion 9 yn cynnwys eitemau sy’n trafod ac yn annog sgwrs am iechyd meddwl. 

• Matt Johnson: Iselder a Fi. Nos Fercher 10 Mai 9.30, yn rhan o Wythnos Iechyd Meddwl S4C. Cynhyrchiad Rondo Media ar gyfer S4C.

Matt Johnson gyda'i gyfaill Eamonn Holmes

Rhannu |