Teledu

RSS Icon
27 Ebrill 2017

Irfon Williams: canolbwyntio ar y rŵan

“CURODD Ofn ar y drws. Atebodd Ffydd. Nid oedd neb yno.” Dyna oedd geiriau Irfon Williams, gŵr o Fangor sy’n brwydro cancr y coluddyn ers tair blynedd, ar ei gyfrif Twitter, cyn iddo wynebu llawdriniaeth fawr y llynedd.

Mewn rhaglen ddogfen arbennig O’r Galon: Irfon, nos Sul, 7 Mai, cawn ddilyn blwyddyn ym mywyd y gŵr sy’n benderfynol o fyw bywyd i’r eithaf yng nghwmni ei wraig a’i blant, er gwaethaf ei salwch.

Dyma bortread dirdynnol a gonest o ddyn 47 mlwydd oed sy’n wynebu marwolaeth. 
Mae’r cancr bellach wedi lledaenu i’w afu, ei ysgyfaint a rhannau o’i fol, a dim ond chwarter o’i afu sydd ganddo wedi llawdriniaethau enfawr.

Ond mae’n benderfynol o helpu eraill, ac roedd am greu’r rhaglen hon er mwyn rhannu ei brofiadau, a rhoi blas i ni o’r cofiant mae o wrthi’n ei ysgrifennu, sy’n croniclo’i siwrnai ers iddo dderbyn y diagnosis.

“Roedd y ffilmio’n anodd ar adegau, ond ro’n i’n teimlo’n gryf bod angen gwneud y rhaglen yma,” meddai Irfon sy’n dad i bump o blant: Lois sy’n 22 oed, Owen sy’n 19 a Beca, 16 o’i briodas gyntaf, a Siôn Arwyn sy’n saith oed ac Ianto Huw, chwech oed, o’i briodas gyda’i wraig Becky.

“Mae o’n canolbwyntio arnom ni fel teulu a sut rydym ni’n ymdopi â’r emosiynau ‘dan ni’n mynd drwyddyn nhw.

“Mae codi ymwybyddiaeth am ganser yn beth pwysig dwi’n meddwl, fel bod pobl ddim yn ofn siarad am y pwnc.

“Dwi’n gobeithio bydd y rhaglen yn helpu pobl eraill sydd wedi mynd drwy’r un peth. 

“Bydd pobl yn gweld yr ochr arall ohona i – yr ochr fwy emosiynol, yn hytrach na’r ymgyrchydd, neu’r person sydd wedi trio gwneud gwahaniaeth; yr ochr bersonol.                    

“Yn ogystal â hynny, ro’n i’n awyddus bod ‘na ryw ddogfen o’n hanes i ar gael ar gyfer y dyfodol, yn enwedig ar gyfer y plant. Rhywbeth iddyn nhw edrych yn ôl arno a chofio.” 

Yn ystod y rhaglen, cawn weld yr effaith mae’r sefyllfa’n ei gael ar Becky.
Mae’n trafod sut mae teulu ifanc yn paratoi’n feddyliol ac yn emosiynol am driniaethau mawr a’r holl ansicrwydd sy’n dod law yn llaw â’r cyflwr.

Ac yn fwy pwysig na dim, y pwyslais o ganolbwyntio ar y rŵan, yn hytrach na’r hyn sydd i ddod.

Cawn fod yn rhan o’u Nadolig, o ddathliad pen-blwydd Irfon, a thrip arbennig i wylio gêm rygbi ryngwladol rhwng Cymru a’r Eidal yn Rhufain.

Ers derbyn y diagnosis mae enw Irfon wedi dod yn adnabyddus drwy Gymru a thu hwnt wrth iddo ymgyrchu’n ddiflino drwy ei ymgyrch Hawl i Fyw i ennill yr hawl i gleifion canser yng Nghymru gael Cetuximab – cyffur i drin canser y coluddyn a’r rectwm.

Mae ei elusen ‘Tîm Irfon’ wedi codi dros £150,000 i Ward Ganser Alaw yn Ysbyty Gwynedd.

Mae’r holl ymgyrchu yma wedi bod yn gymorth i Irfon a’i deulu ddod i delerau hefo’r sefyllfa, a wynebu bywyd o ddydd i ddydd.

“Pan mae meddyg yn dweud wrthoch chi bod ‘na siawns nei di ddim byw, dydi o ddim yn rhywbeth hawdd i’w gymryd wrth gwrs, ond ar y llaw arall, mae’n gwneud i rywun feddwl am fywyd.

“Mae’n hollbwysig i fwynhau bob dydd; mwynhau’r pethau bychan.

“Mae’n bwysig mwynhau’r amser sydd gen i – nid yn unig i mi, ond i roi atgofion i’r plant a Becky,” meddai Irfon.

Cyn cael canser roedd Irfon yn gweithio ym maes iechyd meddwl, yn Rheolwr Gwasnaeth Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc i Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr.

Hyd yn oed yn ei salwch mae e wedi parhau i weithio yn y maes gan greu ei gwmni ‘Hanner Llawn’ sy’n cynnig sgyrsiau a hyfforddiant ar faterion iechyd meddwl, ac yn y rhaglen, cawn weld e’n siarad gyda chriw o blant ysgol am ei brofiadau a’i olwg ar fywyd.

Eglurodd: “Mae dynion yn dueddol o fod yn wael iawn am ddangos eu hemosiynau, yn enwedig pan maen nhw’n dioddef o rywbeth fel canser.

“Does dim cywilydd mewn crio a dangos dy emosiynau, a dwi’n teimlo’n gryf iawn dylai pobl fod yn fwy agored am sut maen nhw’n teimlo.

“Dwi’n meddwl bod hi mor bwysig i godi ymwybyddiaeth am hyn.

“Mae’n bwysig annog pobl – yn enwedig dynion – i fod yn fwy hyderus i ddweud dwi’n teimlo’n isel, neu dwi’n ofn, neu dwi’n pryderu am y dyfodol.” 

Er bod y dyfodol yn bryder cyson i Irfon a’i deulu, daw’n amlwg drwy’r rhaglen ddogfen bersonol yma mai’r presennol sy’n hollbwysig.

 • O’r Galon: Irfon. Nos Sul 7 Mai 9.00, S4C.Cynhyrchiad ITV Cymru ar gyfer S4C.

Rhannu |