Teledu

RSS Icon
25 Ebrill 2017

Premiere teledu Y Llyfrgell

Yn dilyn llwyddiant cenedlaethol a rhyngwladol, bydd ffilm Y Llyfrgell, sy’n llawn cyffro a chyfrinachau, yn cael ei dangos am y tro cyntaf ar deledu ar S4C nos Sul 30 Ebrill.

Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, yw'r llwyfan ar gyfer y ffilm ias anghonfensiynol yma, sydd wedi’i hysbrydoli gan nofel Fflur Dafydd o’r un enw, ac wedi ei chyfarwyddo gan Euros Lyn; Cymro sydd wedi gwneud ei enw ar gyfresi fel Doctor Who, Happy Valley, Sherlock, Last Tango In Halifax, Broadchurch, Black Mirror, a Daredevil, sydd rhyngddynt wedi ennill pum gwobr BAFTA.

Mae’r plot llawn troadau yn dechrau pan fo’r llyfrgellwyr sy’n efeilliaid, Ana a Nan (Catrin Stewart), yn canfod eu mam (Sharon Morgan) ar fin farw. Mae geiriau olaf Elena yn awgrymu bod Eben (Ryland Teifi), ei chofiannydd, ynghlwm â'i marwolaeth, sy'n gyrru'r efeilliaid i ddial arno.

Yn ystod un noson wallgof yn y Llyfrgell Genedlaethol, mae cynllun yr efeilliaid yn mynd ar gyfeiliorn pan ddaw'r porthor nos, Dan (Dyfan Dwyfor), yn rhan o'r stori.

Yn dilyn llwyddiant nofel Y Llyfrgell, a gipiodd Gwobr Goffa Daniel Owen yn 2009, roedd gweld ei chymeriadau yn dod yn fyw ar ffurf ffilm fel breuddwyd i'r awdures, Fflur Dafydd o Gaerfyrddin, a hynny am nad rhwng dau glawr oedd ei gweledigaeth am y stori yn wreiddiol.

“Ro’n i wastad wedi cael y freuddwyd ‘ma ‘mod i eisiau gwneud ffilm wedi’i seilio yn y Llyfrgell Genedlaethol ryw ddydd. Fel ffilm y dychmygais y syniad hwn yn wreiddiol, ond ysgrifennu llyfr a wnes i yn y pen draw,” meddai Fflur Dafydd, sy'n gynhyrchydd, yn gantores, ac yn awdur nofelau a rhaglenni teledu, gan gynnwys Parch ar S4C.

“Ond, mae’n rhaid i mi gyfaddef bod y llyfr yn wahanol i’r ffilm,” ychwanega Fflur. “Mae’r syniad, y lleoliad, a’r un cast o gymeriadau'r un fath, ond mae’r plot wedi newid yn llwyr gan ‘mod i ac Euros, y cyfarwyddwr, wedi penderfynu taw thriller roedden ni am wneud. Roedd angen i ni wasgu’r straeon i gyd i 90 munud o ddrama pur."

Ers dechrau ar daith theatrau yn haf 2016, mae Y Llyfrgell wedi denu canmoliaeth i Fflur ac Euros.

Bu clod hefyd i'r brif actores Catrin Stewart am ei phortread celfydd o'r ddwy chwaer, Ana a Nan. Daeth Catrin i'r brig yn y categori Perfformiad Gorau Mewn Ffilm Hir Brydeinig yng Ngŵyl Ffilm Ryngwladol Caeredin yn 2016.

Fe'i henwebwyd ar gyfer y categori Perfformiad Gorau yng Ngŵyl Ffilm Ryngwladol Oldenburg, Yr Almaen yn ogystal.

Mae’r ffilm bellach ar daith ryngwladol, ac wedi cadw cynulleidfaoedd yn India, America, Gwlad Belg a Hong Kong ar flaenau eu seddi.

A nawr bydd gwylwyr S4C hefyd yn cael profi ias y noson o ddial a hiwmor tywyll yng nghwmni'r efeilliaid, a gwaed yn llifo ar loriau'r llyfrgell.

Cynhyrchiad Ffilm Ffolyn ar gyfer S4C

Rhannu |