Teledu

RSS Icon
07 Ebrill 2017

Ar drywydd 'Flex' Lewis - Arnold Schwarzenegger Cymru

Byddai James 'Flex' Lewis wedi cael mwy o gydnabyddiaeth yng Nghymru pe bai e'n chwaraewr rygbi, pêl-droed neu'n focsiwr, yn ôl Julian Lewis Jones.

Fe fydd yr actor Hollywood yn teithio i'r Unol Daleithiau ar gyfer rhaglen Flex Lewis: Schwarzenegger Cymru (nos Wener, 21 Ebrill ar S4C) i ddarganfod pam yn union bod 'Flex', bodybuilder sy'n enedigol o Lanelli ond sydd bellach yn byw yn Florida, yn cael ei ddisgrifio fel Arnold Schwarzenegger Cymru.

Ac yntau wedi'i ysbrydoli gan 'Arnie', ei arwr, mentrodd Julian Lewis Jones i fyd codi pwysau yn ei arddegau ar ôl cael cyngor gan arbenigwr meddygol y byddai'r fath gamp yn ei helpu i wella o salwch ar ei ysgyfaint.

Ar ôl gweithio yn yr enwog Gold's Gym yn Llundain, ei freuddwyd oedd mynd i'r Unol Daleithiau, ond methodd â chael Green Card.

Er iddo droi at y byd actio rai blynyddoedd wedyn, fe barhaodd ei ddiddordeb yn y byd corfflunio.

"Dwi'n dal i'w ddilyn o. Dwi'n gwybod am ddatblygiad bodybuilding, pwy sy'n dal i gystadlu, pwy ydy'r bobl newydd," meddai.

Un o'r bobl hynny yw 'Flex', ac yn ystod y rhaglen cawn glywed am ei lwyddiant wrth ennill coron y 212 Olympia bedair gwaith, a'i ymgais i'w hennill hi am y pumed tro.

Cyfarfu Julian â 'Flex' yng Nghaerdydd y llynedd, ond roedd Julian yn gwybod am 'Flex' lawer iawn cyn hynny.

"Ro'n i'n gwybod fod o'n Gymro o Lanelli, yn llwyddiannus iawn draw yn America, wedi ennill y goron 212 Olympia bedair gwaith, sy'n dipyn o gamp, a'i fod o ddim yn cael y gydnabyddiaeth draw yng Nghymru.

"Mae'n siom fawr fod pobl ddim yn gwybod am Flex. Mae o fel ein Arnold Schwarzenegger ni.

"Sa fo'n chwaraewr rygbi neu'n focsiwr neu'n bêl-droediwr, mae'n siŵr fysa fo yn cael cydnabyddiaeth… ond ti'n sôn am bodybuilding… Pan enillodd o'r Olympia drosodd a throsodd, doedd dim byd yn y papurau amdano fo. Dim byd.

"Yn America, mae o'n enw mawr iawn. Mae'n bechod bo' ni ddim yn cydnabod y ffaith yna."

Yn ystod y rhaglen, cawn glywed gan Jerome Ferguson, sy'n gweithio yn Gold's Gym yn Venice – neu'r Mecca of bodybuilding – lle dechreuodd y cyfan i Arnold Schwarzenegger yn y saithdegau.

Bedwar degawd yn ddiweddarach, aeth 'Flex' yno heb fawr o arian yn ei boced.

"Roedd Jerome yn gymeriad hoffus iawn," meddai Julian Lewis Jones. "Cwrddon ni â lot o bobl yn yr Expo yn Vegas, a phawb yn rhoi clod i Flex am be' mae o wedi gwneud yn y byd, a bod o dal wrthi.

"Mae gynno fo enw ffantastig yn y byd yna am fod yn hynod broffesiynol. Ond dydi o byth yn anghofio o le mae o'n dod."

Flex Lewis: Schwarzenegger Cymru, Nos Wener 21 Ebrill 9.30, S4C. Cynhyrchiad Avanti ar gyfer S4C

Rhannu |