Teledu

RSS Icon
22 Mawrth 2017

John Ogwen yn ymuno efo Pobol y Cwm

Bydd John Ogwen, un o actorion enwocaf Cymru, yn ymuno hefo Pobol y Cwm fis nesaf.

Bydd yn chwarae cymeriad lliwgar a hoffus o’r enw Josh, fydd i’w weld ar y sgrîn am y tro cyntaf ar S4C nos Wener, Ebrill 7.

Er bod John yn wyneb cyfarwydd mewn nifer fawr o gyfresi drama yn y Gymraeg yn ystod gyrfa sydd wedi para bron i hanner can mlynedd, hwn fydd y tro cyntaf iddo ymddangos yn opera sebon deledu hynaf y BBC, er iddo dreulio cyfnod fel awdur ar y gyfres yn ystod y blynyddoedd cynnar.

“Dwi erioed wedi bod yng Nghwmderi o’r blaen,” meddai John Ogwen, “ond mi wnes i sgwennu nifer fawr o benodau Pobol y Cwm yn y dyddiau cynnar - degau ohonyn nhw mae’n siŵr, flynyddoedd yn ôl, felly dyna oedd fy nghysylltiad i â Chwmderi cyn hyn.”

Dywed John, sy’n 72, ei fod wrth ei fodd yn portreadu cymeriad yn yr opera sebon brysur ers cychwyn ar y gwaith ymarfer a ffilmio rai wythnosau yn ôl.

“Dwi wedi cael rhyw fath o fedydd tân, mae pawb yn dweud,” meddai. “Ches i ddim llithro i mewn yn dawel, ond cael fy nhaflyd i mewn i’r ochr ddwfn!

“Dwi’n mwynhau yn arw, mae’n rhaid i mi ddweud. Dwi’n reit hoff o’r cymeriad Josh - mae o’n amlochrog.

"Mae’r awyrgylch i weithio yn braf, a chysidro bod cymaint o waith i’w wneud bob dydd. A dwi wedi cael croeso mawr.”

Meddai cynhyrchydd y gyfres, Llyr Morus: “Mae’n bleser cael croesawu John Ogwen i’r gyfres - mae cael actor o safon a phrofiad John yn ymuno â’r cast anhygoel o gryf sydd gennym eisoes yn gyffrous iawn i ni.

“Mae Josh yn gymeriad lliwgar sydd wedi profi pob math o bethau yn ystod ei fywyd - a dyna sydd yn ei wneud yn gymeriad cynnes a hoffus o amgylch y pentref.

"Mae fel hoff daid neu ewythr i bawb, ac er eich bod yn gwybod bod pob stori wedi tyfu a thyfu dros y blynyddoedd, does neb yn poeni gan fod bod yn ei gwmni yn bleser pur!”

Rhannu |