Teledu

RSS Icon
20 Mawrth 2017

Cyfres newydd yn rhoi sylw i genhedlaeth newydd o focswyr

Mae bocsio yng Nghymru yn mwynhau cyfnod llwyddiannus ac mae'r dyfodol yn edrych yn ddisglair yn ôl yr ymladdwr proffesiynol o Bontyberem, Zack Davies.

Bydd y bocsiwr pwysau is-welter, sydd wedi ennill saith a cholli un o'i ornestau hyd yma, yn rhan o dîm cyflwyno cyfres newydd S4C, Y Ffeit.

Bydd y gyfres newydd chwe rhan yn dangos uchafbwyntiau gornestau proffesiynol ac amatur o'r nosweithiau bocsio ac MMA diweddaraf bob nos Fercher o 29 Mawrth.

Bydd y rhaglen gyntaf yn cynnwys uchafbwyntiau o noson o focsio yng Nghanolfan Hamdden Rhydycar, Merthyr Tudful.

Ym mhrif ornest y noson, mi fydd yr ymladdwr o Aberpennar, Tony Dixon, yn herio Mike Jones, o Wrecsam i fod yn Bencampwr Pwysau Gor Welter Cymru. Mae Zack yn edrych ymlaen at gymryd ei sedd ar ochr y sgwâr.

Sut daeth dy ddiddordeb mewn bocsio?

Mae bocsio yn fy ngwaed i. Fe ddechreuodd fy nhad-cu ei gampfa ei hun ym Mhontyberem, ac roedd ei bedwar mab e'n bocsio. Mae 'na hen luniau o'n nhad i'n bocsio ar y waliau, felly byddwn i'n dweud mai fy nheulu i dwi'n edrych lan at fwyaf yn y byd bocsio. Ond daeth fy niddordeb mewn bocsio pan oeddwn i tua 11 oed. Roedd fy mrawd i'n henach na fi ac roedd e'n cael lot o dariannau a lot o'r limelight drwy focsio, ac roeddwn i eisiau dipyn o hynny. Felly trwy genfigen nes i ddechrau bocsio a dwi 'di bod yn hooked ers hynny.

Be yw uchafbwyntiau dy yrfa hyd yma a beth yw dy uchelgais?

'Nes i ymladd ar undercard Roy Jones Jr v Enzo Maccarinelli ym Moscow yn 2015, a 'nes i ennill. Roedd e'n sioe wych mewn stadiwm fawr sy'n dal 20,000 o bobl. Roedd e'n brofiad wna i byth anghofio. Fel bocsiwr amatur, es i Gemau'r Gymanwlad yng Nglasgow yn 2014, ac roeddwn i'n rhan o dîm Prydain am bedair blynedd.

Yn y dyfodol, dwi jyst eisiau cymryd pethau fel maen nhw'n dod, a mynd mor bell ag y galla i. Does gen i ddim gôl i fod yn Bencampwr y Byd erbyn rhyw amser penodol. Dwi moyn cael y gorau allan o'm mhotensial, cario 'mlaen i weithio'n galed a bod mor ffit â fi'n gallu bod.

Sut siâp sydd ar focsio yng Nghymru ar hyn o bryd?

Mae Lee ac Andrew Selby ar flaen y gad ar y funud, ac mae Nathan Cleverly hefyd yn gwneud yn dda. Mae 'na foi o'n gampfa i, Liam Williams, yn dechrau cael enw iddo'i hun ac mae e'n Bencampwr y Gymanwlad.

Fi'n credu bod 'na lot o ymladdwyr o ansawdd yn dod trwyddo ar y funud, pobl fel Dale Evans, Tony Dixon, Chris Jenkins ac Alex Hughes. Falle'r bois yma fydd y Cleverly neu'r Selby nesaf, felly mae'n grêt bod ni'n gallu dilyn gyrfaoedd y bocswyr Cymreig 'ma o'r dechrau ar Y Ffeit.

Pwy wyt ti'n edrych ymlaen at ei weld ar noson gyntaf Y Ffeit ym Merthyr?

Tony Dixon yw'r enw mawr ar y cerdyn a fi'n edrych ymlaen at ei weld e. Mae Tony yn focsiwr cyffrous ac yn foi cryf. Fe gafodd ei fwrw mas y flwyddyn ddiwethaf, ac mae e wedi ennill un ffeit ers hynny, ond bydd hwn yn brawf mawr iddo eto yn erbyn Mike Jones, rhywun fydd yn edrych ymlaen at ffeit fwyaf ei yrfa hyd yn hyn, a rhywun sydd wastad mewn siâp da. Mae Dorian Darch (prif focsiwr pwysau trwm Cymru fydd yn ymladd Chris Healey), yn focsiwr cryf hefyd, felly bydd yr ornest yma yn werth ei gweld hefyd.

  • Y Ffeit: Bocsio. Nos Fercher 29 Mawrth 9.30, S4C. Cyd-gynhyrchiad Antena a Tanabi ar gyfer S4C

Llun: Zack Davies a Dale Evans

Rhannu |