Teledu
Pobol y Rhondda - 'Dwi'n foi lleol sydd eisiau dangos i weddill Cymru pa mor ddiddorol yw fy ardal'
Bydd Siôn Tomos Owen yn mynd ar daith arall o amgylch ei filltir sgwâr nos Iau, 23 Mawrth, wrth i gyfres Pobol y Rhondda ddychwelyd i S4C.
Bu S4C yn cyfweld â'r cartwnydd 32 oed o Dreorci.
Sut mae'r gyfres hon yn wahanol i'r gyfres gynta'?
Mae'r gyfres dal wedi ei seilio ar ei theitl sef mai'r bobl sydd yn gwneud y Rhondda.
Yn y gyfres gyntaf 'nes i greu map newydd o'r Rhondda, a'i lenwi gyda chymeriadau'r Cwm.
Y tro hwn dwi'n creu saith murlun, un ym mhob rhaglen, wedi eu seilio ar themâu gwahanol sy'n sôn am fy ardal; ei hanes, ei cherddoriaeth, protestiadau sydd wedi digwydd yma a chymdeithas y Rhondda. Yn y rhaglen olaf bydda' i'n creu un murlun mawr mas o'r cyfan.
Ble byddi di'n mynd y tro hwn?
Bydda i'n ymweld â llefydd amrywiol yn y gyfres.
O'r Porth lan i Pen Pych, ac o Flaenllechau i Glydach, ac yn cwrdd â dyn sy'n darlunio tatŵs a pherson sydd â gwregys du mewn Tae-chi.
Byddaf yn canu mewn 'big band' ac yn taflu morthwyl.
Bydda i hefyd yn tywys pobl o amgylch caffis, siop sglodion a gweithiau celf yr ardal.
A bydda i'n mwynhau golygfeydd o'r Cwm ac yn cyflwyno'r gwylwyr i rai o enwogion y Rhondda.
Gyda phwy fyddi di'n sgwrsio?
Dwi'n cwrdd ag amryw o gymeriadau, rhai adnabyddus a rhai y byddech chi erioed wedi clywed amdanyn nhw.
Dwi'n foi lleol sydd eisiau dangos i weddill Cymru pa mor ddiddorol yw fy ardal.
Bydda i hefyd yn mynd adref at fy nheulu yn 'Nglyncolli' am fwy o sgyrsiau rownd y bwrdd.
Mae gennyt ti blentyn bach, Eira. Pa mor bwysig i ti yw magu dy blentyn yn y Rhondda?
Un o'r prif resymau symudon ni 'nôl i Dreorci oedd er mwyn bod yn agos at ein teulu.
Cafodd fy ngwraig a fi ein magu yn Nhreorci, ac mae ein teuluoedd yn parhau i fyw yno hefyd.
Bydd Eira yn gallu cerdded o'n tŷ ni i dŷ ei Nana a Grumpy, ac wedyn lan at fferm Nain a Thad-cu; ac yna 'nôl lawr at ei hen Gran.
Mae pawb yn byw o fewn hanner milltir i'w gilydd.
Bob bore Sadwrn mae Eira a fi'n mynd am dro trwy'r gwlis, lawr at y cigydd sydd wastad â chroeso cynnes.
Mae mwy o bobl yn dweud helo wrth Eira nawr, nac wrtha i! Mae hyd yn oed y dynion bins yn wafio ati drwy'r ffenest.
Pa mor gryf yw Cymreictod a'r Gymraeg yn y Rhondda?
Mae e lot gryfach na beth mae pobl yn feddwl.
Dwi 'di gweld cynnydd yn y Gymraeg yn yr ardal, a dwi'n clywed mwy o Gymraeg yn cael ei siarad ers y gyfres gyntaf.
Dwi'n credu bod y gyfres wedi agor fy llygaid, a fy nghlustiau i faint o Gymry Cymraeg sydd yn ein plith.
Dwi wedi dod ar draws perchnogion siopau, gweithwyr o ddydd i ddydd a staff mewn tafarndai sydd yn siarad Cymraeg 'da cwsmeriaid.
Dwi hefyd 'di clywed rhieni yn newid i'r Gymraeg gyda'u plant wrth i mi eu pasio yn y stryd. Mae hyn i gyd yn dod â gwên i fy wyneb.
Pobol y Rhondda, Nos Iau, 23 Mawrth 9.30, S4C. Cynhyrchiad Cwmni Da ar gyfer S4C