Teledu

RSS Icon
03 Mawrth 2017

Brett Johns – yn ymladd ei ffordd i'r brig

Mae Brett Johns yn cyfaddef ei fod e'n fachgen ysgol digon dihyder, yn treulio bron bob awr ginio yn y llyfrgell ar YouTube yn gwylio fideos o'i arwr, yr ymladdwr MMA (crefftau ymladd cymysg) Brad Pickett.

Ac yntau'n 25 oed erbyn hyn, fe fydd Brett, sy'n hanu o Bontarddulais ger Abertawe, yn gwireddu breuddwyd yn yr O2 yn Llundain ar 18 Mawrth.

Fel y bydd y rhaglen ddogfen Brett Johns: Ymladdwr UFC nos Fercher, 15 Mawrth ar S4C yn dangos, dydy taith Brett, o fachgen pedair oed yn ymarfer gyda'i lystad Andrew Burt yn y gampfa leol, i'r fan lle mae e nawr – ar gyrion yr UFC – ddim wedi bod yn un hawdd.

Bydd y rhaglen hon yn dilyn Brett drwy ei yrfa ddiweddar wrth iddo ymladd ym myd cystadleuol MMA ar lefelau cenedlaethol a rhyngwladol gyda gornestau mawr yn Titan FC yn yr UDA.

A'r gobaith yw codi i uchelfannau'r UFC (Pencampwriaeth Ymladd Eithafol) a gwireddu breuddwyd oes.

Meddai Brett: "Mae'r ffeit yma yn Llundain yn un bersonol i fi. Bob amser cinio, o'n i'n mynd ar YouTube a gwneud searches am Brad Pickett a'r UFC.

"Fast forward wyth mlynedd, a fi ar ei gerdyn olaf e.

"Fi wedi mynd o fod yn 16 oed yn yr ysgol yn gwylio fe ar y cyfrifiadur i nawr, lle fi ar yr un cerdyn â fe ar yr un noson.

"Dechreuais i gyda jiwdo pryd o'n i'n bedair, a fi wedi gwneud blynyddoedd o jiwdo.

Ond o'n i eisiau rhywbeth arall.

"O'n i wedi mynd i'r gym BJJ (Brazilian jiu-jitsu) lleol, y Chris Rees Academy, i wella sgiliau fi ar y llawr, fel submissions, a dyna le o'n i wedi gweld yr MMA gyntaf.

"O'n i jyst wedi syrthio mewn cariad gyda'r gamp wedyn."

Mae Brett yn un o griw dethol iawn o Gymry sydd wedi llwyddo yn y byd MMA ac mae rhesymau corfforol a meddyliol am hynny, meddai.

"I fod yn onest, mae e wedi bod yn galed iawn i fi.

"Mae'n rhaid i ti gael y ffitrwydd, mae'n rhaid i ti ennill y rhan fwya' o'r amser.

"Mae e mor galed yn yr MMA.

"Rhaid i ti gael y tîm cywir y tu ôl i ti, a fi jyst yn lwcus bo fi'n ymarfer gyda Chris Rees yn Abertawe.

"Mae Jack Marshman yn ymarfer gyda Richard Shore yn Abertyleri.

"Mae John Phillips yn mynd i le mae Conor McGregor yn ymarfer, felly mae cael y timau cywir tu ôl i ti a'r coaches iawn yn bwysig," meddai wrth sôn am rai o'i gyfoedion o Gymru yn yr UFC.

Ond hanner y frwydr yn unig yw cael tîm cefnogol.

Fel yr eglura, mae'r gwaith paratoi cyn pob ffeit yn galw am ymroddiad corfforol a meddyliol bob dydd am hyd at ddeufis.

"Fi'n cael camp cyn bob ffeit - tua chwech i wyth wythnos o ymarfer.

"Mae'r ymarfer yn intense, tair gwaith y dydd, chwe diwrnod yr wythnos.

"Mae e'n galed iawn.

"Ti'n cael lot o anafiadau yn y camp yma, ond rhaid i ti gerdded trwyddo fe."

Mae'r rhaglen yn rhagflas perffaith i gyfres Y Ffeit sy'n dechrau ar S4C ar 29 Mawrth, a bydd y rhaglenni awr o hyd yn dangos uchafbwyntiau tri digwyddiad bocsio a thri digwyddiad MMA dros gyfnod o chwe wythnos.

Brett Johns: Ymladdwr UFC

Nos Fercher 15 Mawrth 9.30, S4C

Rhannu |