Teledu
Cyhoeddi’r 10 cân fydd yn cystadlu am wobr Cân i Gymru 2017
Mae safon cystadleuaeth Cân i Gymru 2017 mor uchel, nes penderfynwyd y dylai 10 cân yn lle’r wyth arferol gael cyfle i gystadlu am y tlws y tro hwn.
Heddiw, ar Ddydd Gŵyl Dewi, mae S4C yn cyhoeddi rhestr y cyfansoddwyr fydd yn cystadlu am dlws Cân i Gymru 2017 nos Sadwrn, 11 Mawrth am 8.25 ar S4C.
Mae pawb yn gwybod bod y Cymry’n mwynhau canu, ond fe wnaeth panel o feirniaid Cân i Gymru 2017 ddarganfod bod Cymru yn frith o gyfansoddwyr caneuon hefyd.
Eleni, fe wnaeth S4C dderbyn dros gant o ganeuon, a thasg y panel oedd dewis wyth cân gall hawlio teitl Cân i Gymru 2017. Ond cymaint oedd y canmol am ddeg cân fel y penderfynwyd bod yn deg a dewis deg.
Un o’r panelwyr oedd Geraint Jarman, canwr a chyfansoddwr amlwg yng Nghymru dros bum degawd. Dywedodd Geraint, “Mi oedd yn bleser bod ar y panel ond yn ychydig o sioc i’r sustem gan fod dros gant o ganeuon i’w beirniadu. Roedd didoli’r holl ganeuon yn dasg anodd gan fod cymaint o’r caneuon o safon uchel. Roedd yn brofiad diddorol iawn.”
Wrth siarad am y caneuon, dywedodd Geraint Jarman, y bardd a chanwr reggae 66 oed o Gaerdydd, “Roeddwn i’n chwilio am gân fyddai’n rhoi bach o syrpreis i mi, ac yn gwneud i mi deimlo’n wahanol - rhywbeth yng nghuriad neu alaw’r gân fyddai’n ei gwneud yn wahanol. Rydym ni fel beirniaid eisiau cynnig pob math o genres i wylwyr, oherwydd does dim un teip o gerddoriaeth ddylai gael ei hystyried fel y g?n i Gymru. O’r deg can, mae un neu ddwy yn apelio’n fawr ata i. Ond wna i ddim dweud dim mwy!”
Ar y panel hefyd oedd y cyfansoddwyr a pherfformwyr Alys Williams a Mei Gwynedd; Rhydian Dafydd, aelod o fand Joy Formidable; a Sion Llwyd, cynhyrchydd Cân i Gymru.
Eleni, mae’r cynhyrchwyr wedi gwneud penderfyniad i fynd nôl i wraidd y gystadleuaeth. Dywedodd Sion Llwyd, cynhyrchydd y rhaglen, “Ffocws Cân i Gymru yw’r caneuon, ac eleni fe fydd hyn i’w weld fwyfwy. Does dim mentoriaid, dim beirniaid, dim wal Twitter. Mae’r pwyslais ar y caneuon ac fe fyddan nhw’n cael eu perfformio gan gantorion dawnus i gyfeiliant band byw.”
Dywedodd Elen Rhys, Comisiynydd Cynnwys Adloniant S4C; “Mae rôl hynod o bwysig gyda’r gwylwyr, gan mai nhw sy’n penderfynu pwy sy’n ennill Cân i Gymru 2017. Bydd y gystadleuaeth yn cael ei darlledu eleni ar nos Sadwrn, felly dewch ?’ch teulu a ffrindiau ynghyd, argraffwch y taflenni sgôr o wefan Can i Gymru, a chofiwch godi’r ffôn i bleidleisio am eich hoff g?n.”
Mae Geraint Jarman, a enillodd y wobr yn 1972 gyda’r gân Pan Ddaw’r Dydd a gafodd ei pherfformio gan Heather Jones, hefyd yn annog gwylwyr i bleidleisio.
Ychwanegodd Geraint, “Mae Cân i Gymru yn draddodiad sydd wedi’i hen sefydlu yng nghalendr cerddorol Cymru. Fe wnaeth ennill y gystadleuaeth roi hwb mawr i mi gario mlaen i gyfansoddi a dysgu mwy am y grefft. Mae unrhyw beth sy’n sbarduno pobl i ddefnyddio’r iaith Gymraeg yn bwysig, ac mae tipyn o gravitas yn perthyn i’r gystadleuaeth gan ei bod yn cynnig gwobr hael i gyfansoddwyr.”
Isod mae’r deg cân fydd yn brwydro am y wobr nos Sadwrn, 11 Mawrth ar S4C. Bydd y rhaglen yn cael ei chyflwyno gan Elin Fflur a Trystan Ellis-Morris. Bydd tair gwobr eleni – bydd yr enillydd yn derbyn £5,000, £2,000 i'r ail, a £1,000 i'r drydedd.
CÂN 1
Ti yw fy Lloeren - Hywel Griffiths
Mae Hywel yn artist graffeg llawrydd ac yn byw yng Nghaerdydd ar ôl treulio cyfnod yn Llundain. Cafodd y gân ei chyfansoddi yn wreiddiol yn y Saesneg ac yn sôn am Brexit, ond wrth addasu’r gân i’r Gymraeg fe newidiodd neges y gân. Mae'r gân yn sôn am oleuni pan fydd rhywun mewn cyfnod tywyll.
CÂN 2
Curiad Coll - Hawys Bryn Williams a Gwion John Williams
Mae Hawys a Gwion ar hyn o bryd yn astudio Lefel A – Hawys yng Ngholeg Meirion Dwyfor, Pwllheli; a Gwion yn Ysgol Brynrefail, Llanrug. Cyfansoddwyd y gân dros Facetime, ac mae’n sôn am y frwydr ddyddiol mae pobl yn ei dioddef dros y byd.
CÂN 3
Cân yr Adar - Llinos Emanuel
Daw Llinos yn wreiddiol o Gaerfyrddin ac ar hyn o bryd yn astudio gradd meistr mewn jazz llais yng Ngholeg Cerddoriaeth Trinity, Llundain. Ysbrydolwyd Llinos i ysgrifennu’r gân ar ôl ymweld â thraeth Cefn Sidan.
CÂN 4
Eleri - Betsan Haf Evans
Mae Betsan yn byw ym Mhontarddulais ac wedi bod mewn bandiau ers yn 18 oed - Alcatraz, Genod Droog, Johnny Panic, Daniel Lloyd a Mr Pinc a Gwdihŵ i enwi rhai. Bydd perfformio ar Cân i Gymru yn gwireddu breuddwyd i Betsan, ac yn rhoi hwb iddi greu albwm ei hun. Mae’r gân yn dathlu ei chariad at ei gwraig, Eleri.
CÂN 5
Fy Nghariad Olaf i - Richard Vaughan ac Andy Park
Cyfansoddwyd y gân serch hon mewn dwy awr mewn bar ym Mangor. Mae Richard yn gerddor sesiwn, arweinydd Côr y Gleision, ac yn cyfansoddi’n gyson. Mae Andy yn gerddor ac yn chwarae mewn clybiau, tafarndai a phriodasau.
CÂN 6
Rhydd - Cadi Gwyn Edwards
Daw Cadi’n wreiddiol o Lanrwst ac mae ar hyn o bryd yn gwneud Lefel AS yn Ysgol Dyffryn Conwy. Ysgrifennodd y gân ar ei ffôn ar ôl iddi ymweld ag Ynys Llanddwyn. Disgrifia’r gân fel ‘unigrwydd person sydd eisiau torri’n rhydd oherwydd caethiwed’.
CÂN 7
Gelyn y Bobl - Richard Marks
Enillodd Richard Cân i Gymru yn 1991 gyda chân ‘Yr Un Hen Le’ a phenderfynodd ymgeisio eto eleni. Fe gafodd ei ysbrydoli i ysgrifennu’r gân wrth wylio’r newyddion ac mae’n disgrifio’r gân fel baled wleidyddol roc wedi ei gosod ar riff. Mae’n byw yn Llanbedr Pont Steffan.
CÂN 8
Seren - Mari Lovgreen a Geraint Lovgreen
Tad a merch o Gaernarfon yn cydweithio am y tro cyntaf i gyfansoddi’r gân bersonol hon. Ysgrifennodd Mari y geiriau a Geraint yr alaw. Mae’r gân am brofiad Mari o fod yn fam am y tro cyntaf i Betsan, sydd bellach yn ddwy oed. Enillodd Geraint Cân i Gymru yn 1980 a 1982.
CÂN 9
Pryder - Sophie Jayne Marsh
Dim ond ers blwyddyn mae Sophie wedi bod yn cyfansoddi, a dros y ddwy flynedd diwethaf mae wedi bod yn perfformio ar Heno ac mewn clybiau ar hyd a lled Ynys Môn. Mae’r gân yn trafod y gwrthgyferbyniad rhwng y pryder o derfysg yn y byd a’i bod hi’n teimlo’n ddiogel yn ei milltir sgwâr ym Modedern a Sir Fon.
CÂN 10
Rhywun Cystal â Ti - Eady Crawford
Dyma'r ail dro i Eady gyrraedd rhestr fer Cân i Gymru ar ôl iddi gystadlu yn 2016. Mae’r gân yn faled am gariad a gobeithia Eady y bydd yn gwneud i bobl deimlo’n hapus. Mae Eady wedi bod â diddordeb mewn cerddoriaeth ers yn ifanc iawn, a bellach yn gigio yn y Gymraeg a’r Saesneg. Mae’n byw ym Merthyr Tudful.
Llun: Y cyflwynwyr Trystan Ellis-Morris ac Elin Fflur