Teledu

RSS Icon
24 Chwefror 2017

Corau Cymru yn cychwyn ar y cystadlu

O nos Sul nesaf ymlaen bydd S4C yn gartref i un o brif gystadlaethau corawl Cymru, Côr Cymru 2017.

Heledd Cynwal a Morgan Jones fydd yn ein tywys drwy’r gyfres sy’n argoeli i fod yn wledd arbennig o ganu corawl ar ei orau.

Am yr ail flwyddyn hefyd bydd rhaglen arbennig yn cael ei darlledu yn coroni’r côr ysgol gynradd orau yn, Côr Cymru Cynradd.

Mae cystadleuaeth Côr Cymru yn cael ei chynnal bob yn ail flwyddyn ac eleni yw’r wythfed bencampwriaeth.

Mae pum categori ac 17 o gorau wedi cyrraedd y brig yn y rowndiau cynderfynol eleni, a'r rowndiau yn cael eu dangos bob nos Sul ar S4C, gan ddechrau ar 5 Mawrth.

Y nod fydd cyrraedd y rownd derfynol ar nos Sul 9 Ebrill mewn noson fawreddog yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth fydd yn cael ei darlledu yn fyw ar S4C.

Y Corau Ieuenctid gyrhaeddodd y rownd gynderfynol yw Coda o Ynys Môn, Côr Cytgan Clwyd o hen siroedd Clwyd, Côr Merched Sir Gâr yn Sir Gaerfyrddin a Chôr y Cwm o Gwm Rhondda

Mae'r Corau Meibion yn cynnwys Bois Ceredigion o ardal Aberystwyth, Bois y Castell o Ddyffryn Tywi, Côr Meibion Machynlleth a John’s Boys o ardal Rhosllannerchrugog.

Yng nghategori’r Corau Cymysg, Côr ABC o Aberystwyth, Côr Dre o Gaernarfon a dau gôr o Gaerdydd, CF1 a Côrdydd fydd yn cystadlu. Y corau plant fydd Ysgol Gerdd Ceredigion, Côr Iau Ieuenctid Môn, a Chôr Ieuenctid Môn, Côr y Cwm o Gwm Rhondda. Y Côr Merched, Ysgol Gerdd Ceredigion, yw’r unig gystadleuwyr a ddewiswyd gan y beirniaid i fynd drwodd i’r rownd gynderfynol yn y categori Merched.

Mae cynhyrchydd y gystadleuaeth, Gwawr Owen o gwmni Rondo yn falch iawn o weld corau cyfarwydd yn ogystal â rhai newydd yn y bencampwriaeth eleni.

Meddai: “Mae gennym ni gynrychiolaeth dda iawn o bron i bob rhan o Gymru ac mae’n hynod galonogol gweld cynifer o gantorion ifanc yn eu mysg.

"Mae hyn yn awgrym cryf fod dyfodol disglair iawn i ganu corawl yng Nghymru."

Eto eleni hefyd mae beirniad nodedig ac uchel iawn eu parch ym maes canu corawl yn feirniaid ar y gystadleuaeth.

Y tri beirniad yw’r cyfansoddwr o’r Unol Daleithiau ac enillydd dwy Wobr Grammy, Christopher Tin, yr arweinydd corawl byd enwog María Guinand a’r Athro Edward Higginbottom, Athro Corawl cyntaf Prifysgol Rhydychen.

Meddai’r Athro Higginbottom: “Mae’n amlwg bod cystadleuaeth Côr Cymru wedi dod yn rhan annatod o’r traddodiad canu corawl yng Nghymru. Mae hi’n fraint cael dod i adnabod y gystadleuaeth a’r corau nodedig iawn sy’n cystadlu.”

Cynhelir cystadleuaeth Côr Cymru bob dwy flynedd ac am y tro cyntaf yn 2015 cynhaliwyd cystadleuaeth ar wahân ar gyfer ysgolion cynradd sef Côr Cymru Cynradd.

Bu’n arbrawf llwyddiannus ac eleni bydd pedwar côr yn brwydro am y wobr sef Ysgol Gymraeg Teilo Sant o Landeilo, Ysgol Gynradd Gymraeg Llwyncelyn o Gwm Rhondda, Ysgol Iau Llangennech ger Llanelli ac Ysgol Pen Barras o Ruthun. Bydd y bencampwriaeth yma yn cael ei darlledu yn fyw ar S4C ar 8 Ebrill.

Meddai Hefin Owen o Rondo, Uwch-gynhyrchydd y gyfres: “Yn bersonol dwi’n hyderus bod Côr Cymru wedi codi safon canu corawl yng Nghymru. Dwi’n meddwl bod corau Cymru ar gynnydd a bod Côr Cymru wedi helpu’r cynnydd hwn.”

Côr Cymru

Nos Sul 5 Mawrth 7.15, S4C

Isdeitlau Saesneg

Ar gael ar alw ar s4c.cymru, BBC iPlayer a llwyfannau eraill
Cynhyrchiad Rondo Media ar gyfer S4C

Llun: Y cyflwynwyr Heledd Cynwal a Morgan Jones

 

Rhannu |