Teledu

RSS Icon
02 Chwefror 2017

Y gorau o’r byd bocsio ac ymladd MMA Cymru i’w gweld ar gyfres newydd S4C, Y Ffeit

Bydd cyfres chwaraeon newydd ar S4C yn dangos y gornestau bocsio ac MMA orau sy’n cael eu cynnal yng Nghymru.

Bydd y gyfres newydd chwe rhan, o’r enw Y Ffeit, yn darlledu uchafbwyntiau gornestau proffesiynol ac amatur o’r nosweithiau bocsio ac MMA diweddaraf ac yn cael ei darlledu bob nos Fercher, o 29 Mawrth.

Bydd y rhaglen yn darlledu o leoliadau gwahanol bob wythnos ac yn dangos ymladdwyr o bob cwr o Gymru a Phrydain. Uchafbwyntiau o noson o focsio yng Nghanolfan Hamdden Merthyr Tudful fydd yn cael eu dangos ym mhennod gyntaf y gyfres, nos Fercher, 29 Mawrth.

Yr wythnos ganlynol, bydd y gyfres yn darlledu uchafbwyntiau noson o ymladd MMA, sy’n cael ei chynnal yn Theatr Ffwrnes, Llanelli. Bydd y gyfres yn dangos y campau yma yn eu tro, bob yn ail wythnos.

Bob wythnos, bydd tîm Y Ffeit yn cyflwyno cyfres o eitemau yn edrych ar ddatblygiad y ddwy gamp - bocsio ac MMA - yng Nghymru. Bydd y rhaglen hefyd yn rhannu proffil o rai o dalentau mwyaf cyffrous a chymeriadau mwyaf lliwgar y byd chwaraeon ymladd, gan gynnwys dynion a merched sydd wedi creu argraff ar y lefel uchaf.

Bydd y gyfres hefyd yn dangos cyfweliadau gyda’r ymladdwyr ar ôl y gornestau, yn ogystal â holi’r gwesteion sy’n mynychu’r digwyddiadau.

Dywedodd Sue Butler, Comisiynydd Cynnwys Chwaraeon S4C: "Mae bocsio wedi mwynhau dilyniant cryf yng Nghymru erioed ac mae MMA yn gamp sy'n tyfu mewn poblogrwydd. Bydd Y Ffeit yn canolbwyntio ar y gornestau a’r newyddion diweddaraf o’r ddwy gamp.  Dyma lwyfan arall i ddangos talent addawol Cymru ac edrychwn ymlaen at ddangos gornestau o safon.”

Dywedodd Jamie Sanigar, sy’n trefnu a hyrwyddo nosweithiau bocsio ar hyd a lled y wlad: "Mae’r gyfres hon yn hwb aruthrol i focsio yng Nghymru ac mae’n ein galluogi ni i ddangos rhai o dalentau gorau Cymru ar S4C. Rydym yn bwriadu dangos gornestau pencampwriaeth Cymru yn ogystal â chystadlaethau rhyngwladol sy’n cynnwys bocswyr o Gymru. Y gobaith yw y bydd hyn yn helpu denu mwy o gefnogwyr i’r gamp.”

Dywedodd James Wallis, sy’n rhedeg y cwmni hyrwyddo MMA Adrenalin Fight Nights: “Mae MMA wedi dod yn boblogaidd iawn yng Nghymru dros y flwyddyn ddiwethaf, yn enwedig ar ôl i’r Cymry Brett John a Jack Marshman ennill yn yr UFC ym mis Tachwedd 2016, ac ar ôl i John Phillips hefyd gael ei arwyddo. Rydym yn edrych ymlaen at fod yn rhan o’r gyfres newydd S4C, ac i ddangos y gamp i gynulleidfa newydd ar deledu sydd ar gael i bawb.”

Am fwy o wybodaeth am y gyfres, dilynwch @YFfeit_S4C at Twitter.

Y Ffeit

Yn dechrau nos Fercher, 29 Mawrth 9.30pm, S4C                  

Isdeitlau Saesneg                              

Ar gael ar alw ar s4c.cymru, iPlayer a llwyfannau eraill

Cyd-gynhyrchiad Antena a Tanabi ar gyfer S4C

Rhannu |