Teledu

RSS Icon
12 Ionawr 2017

Hillsborough – Yr Hunllef Hir

YM mis Ebrill 2016 fe wnaeth rheithgor yn y cwest i farwolaethau 96 o gefnogwyr tîm pêl-droed Lerpwl yn Hillsborough ym 1989 gasglu eu bod wedi cael eu lladd yn anghyfreithlon.

Barn y rheithgor oedd mai methiannau’r heddlu a arweiniodd at y marwolaethau yn y stadiwm, ac nad oedd ymddygiad cefnogwyr Lerpwl wedi cyfrannu at y gyflafan.

Ar ôl ymgyrch hir a phoenus dros gyfnod o 27 mlynedd i chwilio am atebion ac i brofi nad nhw oedd ar fai, roedd y cefnogwyr wedi ennill, ond i’r 24,000 o gefnogwyr Lerpwl oedd yn rownd gynderfynol Cwpan yr FA rhwng Lerpwl a Nottingham Forest yn Sheffield ar 15 Ebrill 1989, mae’r hunllef hir yn parhau.

Ymysg y cefnogwyr roedd y cynhyrchydd rhaglenni teledu a chefnogwr brwd Lerpwl, Dylan Llewelyn o Bwllheli, a oedd yn 23 oed ar y pryd.

Mae o ymysg y rhai sy’n edrych ‘nôl ar drychineb chwaraeon gwaethaf Prydain yn y rhaglen ddogfen rymus Hillsborough: Yr Hunllef Hir sy’n cael ei darlledu nos Fawrth, 24 Ionawr ar S4C.

Roedd Dylan, sydd wedi cefnogi Lerpwl ers yn blentyn, yn dyst i’r cyfan, ac fel nifer mae’n dal i deimlo’n euog am oroesi’r diwrnod. 

Meddai: “Fedra i ddim clywed na gweld unrhyw beth am Hillsborough heb ei fod o’n mynd â fi ‘nôl i 1989.

“Fe wnaeth bron i gant o bobl farw o flaen fy llygaid.

“Rwy’n teimlo’n euog hyd heddiw.

“Fe wnes i rewi yn y fan a’r lle. 

“Wnes i ddim helpu neb a dwi wedi gorfod byw efo hynny.

“Y sioc fwya’ oedd gweld pa mor hawdd roedd pobl yn marw… ac achos ‘mod i wedi byw, roedd rhywun arall wedi marw.”

Ar ei daith ddirdynnol mae’n cwrdd â rhai o arwyr tîm pêl-droed Lerpwl ar y pryd, Ian Rush a John Barnes, ac yn siarad â rhai o’r Cymry eraill fu yno sy’n dal i ddiodde’r creithiau meddyliol heddiw. 

Bu farw 96, ond anafwyd dros 750 yn y trychineb, ac mae cannoedd mwy wedi cael eu heffeithio gan eu profiadau’r diwrnod hwnnw.

Bydd nifer yn siarad yn agored am eu profiadau ysgytwol am y tro cyntaf, unigolion fel Alun Wyn Pritchard o Gaernarfon, fu’n agos iawn at golli ei fywyd ar deras Leppings Lane y diwrnod hwnnw. 

Dywedodd Alun: “Dwi’n cofio bod yn sownd yn erbyn barrier yn methu symud a gweld pobl yn syrthio o flaen fy llygaid.

“Roeddwn yn teimlo haemorraego yn fy nhrwyn.

“Dwi’n cofio cael fy nghario ar advertising boards a gweld cyrff marw wrth fy ochr i.

“Maen nhw’n atgofion sydd byth yn mynd, mae’n rhywbeth ti’n trio anghofio ond maen nhw yna o hyd.”

Mae Dylan hefyd yn cwrdd â’r Athro Phil Scraton sydd wedi bod yn flaenllaw yn y frwydr am gyfiawnder ers dros chwarter canrif, yn ogystal â Barry Devonside gollodd ei fab Chris, 18 oed, a Julie Fallon a gollodd ei brawd Andrew, 23 oed, yn y trychineb.

Meddai Barry Devonside: “Rwy’n colli Chris bob dydd, dwi’n meddwl amdano ddydd a nos.

“Dydy o ddim yn iawn eu bod wedi colli eu bywydau yn y ffordd wnaethon nhw.

“Roedd Chris yn bopeth i mi a Jackie, a byddwn ni fel teulu byth yn dod dros y golled.”

• Hillsborough: Yr Hunllef Hir, Nos Fawrth 24 Ionawr 9.30, S4C. Cynhyrchiad Rondo Media ar gyfer S4C.

Llun: Dylan Llewelyn ac Alun Wyn Pritchard

Rhannu |