Teledu

RSS Icon
10 Ionawr 2017

Gwlad yn llifo o laeth a lorïau Mansel

EFALLAI nad pentref bychan yn Sir Benfro yw’r lleoliad mwyaf tebygol ar gyfer un o gwmnïau cludo nwyddau pwysicaf Cymru ond pan fyddwch yn mentro i bencadlys cwmni Mansel Davies a’i Fab yn Llanfyrnach ger Crymych, rydych chi’n gwybod eich bod yn cael blas ar fusnes hynod effeithiol.

Mae’r cwmni wedi bod ar waith yn cynnig gwasanaethau gwahanol er 1875 ac yn ddosbarthwyr nwyddau er 1900, yn y lle cyntaf gyda cheffyl a chert ac yna’n fwy diweddar gyda lorïau.

Bellach, gan ddefnyddio’r dechnoleg logisteg ddiweddaraf, mae ganddyn nhw fflyd o fwy na 150 o lorïau ac yn cyflogi 300 o bobl yn y pencadlys ac mewn lleoliadau eraill.

Ond fel y gwelwn yn y gyfres ddogfen chwe rhan newydd Lorïau Mansel Davies a’i Fab, sy’n dechrau nos Fercher, 18 Ionawr ar S4C, mae’r cwmni yn parhau i fod yn fusnes teulu ac yn cyflogi pobl leol yn ardal Sir Benfro yn bennaf.

Ac fel y gwnaeth y tîm cynhyrchu Tinopolis ddarganfod, mae’r cwmni yn llawn o gymeriadau lliwgar sy’n cyfuno gwaith caled a phroffesiynoldeb llwyr gyda llawer iawn o hiwmor, tynnu coes a llond lori laeth o garedigrwydd.

Stephen Davies sy’n rheoli’r cwmni o ddydd i ddydd, er bod ei dad 80-mlwydd-oed Kaye Mansel Davies yn dal i wneud ei siâr yn y gwaith o redeg yr iard!

Mae’r cwmni yn berchen ar nifer o gwmnïau yn ne a gorllewin Cymru, ond y lorïau yw’r prif gwmni ac mae eu gweld nhw ar heolydd troellog Cymru yn olygfa go gyffredin.

Dywed Stephen Davies: “Ry’n ni nawr yn y chweched genhedlaeth o Daviesus yn y busnes ac am gadw’r busnes o fewn y teulu. 

“Ry’n ni’n cyflogi’r rhan fwyaf o’n staff o fewn radiws 25-milltir o’r pentref ac mae rhai o’n gweithwyr yn y drydedd genhedlaeth o’r un teulu, gydag wyrion rhai cyn-weithwyr ar y staff.

“Mae hwn yn fusnes 365-diwrnod-y-flwyddyn, ac ry’n ni’n cario pob math o nwyddau ar draws Prydain ac Ewrop; mae’n waith caled.

“Ry’n ni’n codi llaeth o 400 o ffermydd a mynd â nhw mewn loriau artic i lefydd prosesu ar draws y wlad.”

Yn y gyfres, bydd gwylwyr yn dilyn y gyrwyr lorïau ar eu teithiau, yn gweld sut mae’r staff yn ymdopi ar Ddydd Nadolig ac yn ymuno yn nathliadau pen-blwydd Kaye Mansel yn 80 mlwydd oed.

Byddwn yn dod i adnabod y teulu Davies, gwraig Stephen, Siân, eu merch Sasha a’u mab Scott, sydd i gyd yn gweithio i’r busnes. 

Mae’r hwyl a’r cyfeillgarwch ymysg y staff yn amlwg hefyd, fel y byddwch yn gweld wrth gwrdd â gyrwyr lori lliwgar fel Alan George a Dai Hands, a llu o staff, o’r bobl sy’n llunio’r amserlenni i fois y garej.

Meddai Alan George: “Roedd dad yn rheolwr trafnidiaeth gyda’r cwmni am nifer o flynyddoedd a dyna le y daeth y diddordeb. 

“Mae’n gwmni da ac mae gyrru yn fy ngwaed i.

“Mae’n gallu bod yn fywyd unig a’r peth gwaethaf yw fy mod i wedi colli mas ar rai rhannau o fagwraeth y mab ond unwaith y byddwch chi y tu ôl i’r olwyn ac mae’r adrenalin yn dechrau llifo, chi’n hooked ar y dreifio.”

• Lorïau Mansel Davies a’i Fab. Nos Fercher 18 Ionawr 9.30, S4C. Hefyd, ddydd Sadwrn 21 Ionawr 1.30, S4C. Cynhyrchiad Tinopolis ar gyfer S4C

Lluniau: Kaye Mansel Davies a'i fab Stephen

Rhannu |