Teledu
Gwobr Hollywood i ddogfen am ffotograffydd Rhyfel Fietnam
Mae rhaglen ddogfen sy'n dathlu gwaith a bywyd y ffotograffydd byd-enwog o Ruddlan, y diweddar Philip Jones Griffiths, wedi ennill gwobr fawreddog yn Los Angeles, gwobr Hollywood International Independent Documentary Awards am y ffilm ddogfen dramor orau.
Darlledwyd y rhaglen arobryn Philip Jones Griffiths: Ffotograffydd Rhyfel Fietnam yn Chwefror y llynedd ar S4C, gyda gohebydd tramor y BBC Wyre Davies yn cyflwyno.
Bwriad y gwobrau yw hyrwyddo a chydnabod gwaith cynhyrchwyr ffilmiau dogfen ar draws y byd.
Mae'r gwobrau yn digwydd yn fisol, ac enillodd Philip Jones Griffiths: Ffotograffydd Rhyfel Fietnam wobr yng nghategori mis Rhagfyr.
Roedd y rhaglen ddogfen yn gyd-gynhyrchiad rhwng cwmni cynhyrchu Rondo Media, S4C a chwmni cynhyrchu o Dde Corea, JTV, Jeonju Television.
Roedd y ffilm yn dogfennu'r hyn wnaeth Philip Jones Griffiths yn enwog, ei gyfnod fel ffotograffydd rhyfel yn Fietnam.
Yn ystod y rhyfel tynnodd Philip rai o'r delweddau mwyaf graffig ac ingol, a darluniodd wlad ranedig oedd yn cael ei rheibio gan ymyrraeth wleidyddol, a'i malurio gan ymladd mewndirol.
Mae gwaith Philip yn parhau i ysbrydoli hyd heddiw ac yn enghraifft wych o ffotonewyddiaduraeth.
Dywedodd Llion Iwan, Comisiynydd Ffeithiol S4C: "Llongyfarchiadau i gwmni cynhyrchu Rondo Media ar eu llwyddiant rhyfeddol.
"Mae'r lluniau dynnodd Philip yn ystod, ac wedi Rhyfel Fietnam yn parhau i daro tant gyda phobl heddiw, ac yr un mor berthnasol yn ein hoes ni.
"Fel darlledwr cenedlaethol Cymru roedd hi'n bwysig bod S4C yn talu teyrnged a dathlu ei waith drwy gomisiynu'r rhaglen ddogfen arbennig hon."
Dywedodd Gareth Williams, Prif Weithredwr Cwmni Cynhyrchu Rondo Media: "Rydym yn falch iawn o fod wedi ennill y wobr ryngwladol yma am raglen i S4C yr ydym yn hynod o falch ohoni.
"Hoffem longyfarch yn enwedig y tîm cynhyrchu Caryl Ebenezer a Luned Phillips.
"Mae’n enghraifft arbennig o safon cynyrchiadau ffeithiol Rondo, a chynhyrchiad erbyn hyn sydd hefyd yn cael ei ddosbarthu ledled y byd gan BBC Worldwide.
"Rydym yn falch eithriadol o’r bartneriaeth sydd wedi ei meithrin gyda chwmni JTV yn Ne Corea – ein partner cynhyrchu ar y rhaglen hon.
"Roeddem hefyd yn ffodus iawn o gefnogaeth merched y ffotograffydd - Katherine Holden a Fanny Ferrato, y cwmni Magnum Photos, cyfranwyr nodedig fel John Pilger, Don McCullin a Noam Chomsky.
"Rydym yn hynod o ddiolchgar hefyd i'r cyflwynydd Wyre Davies, a oedd yn amlwg wedi ei gyffwrdd gan hanes y ffotograffydd hynod hwn a chan erchylltra rhyfel sy'n dal i effeithio cymdeithas Fietnam heddiw."