Teledu

RSS Icon
23 Rhagfyr 2016

10 allan o 10 i gyngerdd mawreddog wrth i'r difas greu noson i'w chofio

Dyma'r nifer fwyaf o difas proffesiynol Cymreig i ddod at ei gilydd ar lwyfan ers peth amser – a'r canlyniad oedd digwyddiad cerddorol a darodd y nodyn uchaf un.

Ac os nad oeddech chi yn Venue Cymru, Llandudno ar gyfer y noson fawr a roddodd lwyfan i 10 o sopranos a mezzo sopranos blaenllaw o Gymru, gallwch fwynhau'r sioe ar S4C yn y rhaglen Cyngerdd y 10 Difa ar nos Sul, 8 Ionawr.

Y deg difa a ddaeth i Landudno ychydig cyn y Nadolig oedd, Elin Manahan Thomas, Shân Cothi, Leah-Marian Jones, Fflur Wyn, Gwawr Edwards, Catrin Aur, Elin Pritchard, Ellen Williams, Llio Evans ac Eirlys Myfanwy Davies, ynghyd â cherddorfa symffoni lawn o dan arweiniad Andrew Greenwood.

Ac fe wnaeth yr amrywiaeth bêr o brofiad ac ieuenctid swyno'r gynulleidfa gyda repertoire o arias operatig, clasuron West End a ffefrynnau Cymreig. Roedd yn cynnwys ffefrynnau operatig poblogaidd fel y gân hwyliog o Die Fledermaus; Chacun le sait (La fille du Regiment) gan Donizetti; y gân fytholwyrdd Gymraeg Hei-Ho a'r alaw ffilm atgofus Obo Gabriel.

I un o'r difas, Llio Evans, 29, o Lanfairpwll, Ynys Môn, roedd hi'n noson fydd yn aros yn y cof am flynyddoedd lawer.

"Roedd hi'n spectacle fythgofiadwy ac yn fraint enfawr i weithio gyda chymaint o gantorion talentog ar yr un llwyfan. Myth llwyr yw'r syniad hwnnw bod difas yn bitchy am ei gilydd; dyma 10 artist proffesiynol hoffus, hawddgar a oedd yn benderfynol o gael hwyl a diddanu cynulleidfa.

"Mae'r repertoire eang a safon uchel y perfformiadau yn destament i safon y dalent yng Nghymru," meddai Llio, sy'n edrych ymlaen at flwyddyn brysur arall yn 2017 yn perfformio yn Ne Corea a'r DU gyda chynhyrchiad Theatre Music Wales o The Golden Dragon ac at weithio gyda dau gwmni opera mawr, Garsington Opera ac Opera Cenedlaethol Lloegr.

Trefnwyd Cyngerdd y Deg Diva yn dilyn llwyddiant aruthrol Cyngerdd y Deg Tenor Nadolig 2015 yn Venue Cymru. Un o'r 10 tenor hwnnw oedd Aled Hall, a fe wnaeth arwain ar y llwyfan yn y cyngerdd ysblennydd y tro hwn.

Fe wnaeth y deg difa ganu cyfieithiad Cymraeg Tudur Dylan Jones o glasur Bernstein, 'I feel pretty' – 'Rwyf fi'n seren' i ddenu sylw'r unig denor ar y llwyfan.

Fe wnaeth Aled Hall, 48, o Bencader, Sir Gaerfyrddin, fwynhau'r profiad yn fawr:  "Roedd yn noson llawn hwyl a direidi a ges i job satisfaction mawr o fod ynghanol cymaint o fenywod glamorous!

"Fe gawsom ni i gyd sbort yn canu ffefrynnau fel 'Hywel a Blodwen' ac 'Annie Get your Gun' gan roi gwên ar wynebau pawb.

"Ond yn bwysicach fyth, roedd hi'n noson hudol yn llawn glitz a glamour ac yn llawn canu o'r safon uchaf un sy'n dangos faint o dalent gerddorol mae Cymru yn ei chynhyrchu."

Cyngerdd y 10 Difa

Nos Sul 8 Ionawr 7.30, S4C

Hefyd, Nos Fercher 11 Ionawr 10.00, S4C

Cynhyrchiad Rondo Media ar gyfer S4C

Rhannu |