Teledu

RSS Icon
22 Rhagfyr 2016

Cyngerdd fawreddog Rhys - codi dros £11,000 i ddwy elusen

UN o ddigwyddiadau mawr Cymru yn ddiweddar oedd y noson fythgofiadwy yn Theatr Pafiliwn y Rhyl pan wnaeth y tenor rhyngwladol Rhys Meirion rannu llwyfan â rhai o berfformwyr gorau Cymru er mwyn codi arian at ddwy elusen. 

Yn y gyngerdd, mae’r tenor yn rhannu llwyfan gyda Tudur Owen, Dilwyn Morgan, Shân Cothi, Rebecca Evans, Bryn Fôn, Eden, Trio, Jade Davies, Erin Meirion, Côr Trelawnyd, Cantorion Gogledd Cymru a Chôr Ieuenctid Sir Ddinbych. 

Roedden nhw i gyd yno er mwyn codi arian at yr elusennau Cronfa Elen ac Wrth Dy Ochr.

Mae Cronfa Elen yn cefnogi pobl sydd angen trawsblaniad organ yng Nghymru a theuluoedd y rhai sydd wedi rhoi eu horganau.

Ymgyrch i wella gofal canser yng Ngogledd Cymru yw Wrth Dy Ochr.

Bydd Cyngerdd Awyr Las Rhys Meirion i’w gweld Ddydd Calan, nos Sul, 1 Ionawr ar S4C. 

“Ro’n i’n lwcus bod cymaint o artistiaid gwych yn gefnogol o’r holl beth ac mor frwdfrydig dros yr achos,” meddai Rhys Meirion. 

“Yr hyn fydd yn aros yn y cof i mi o’r gyngerdd fydd y cyfeillgarwch rhwng yr artistiaid, y criw cynhyrchu a chriw Theatr Pafiliwn y Rhyl.

“Roedd hyn i gyd yn codi safon yr adloniant wrth i bawb ymdrechu i greu llwyddiant ysgubol.

“Mae’r elusen Cronfa Elen yn un agos iawn at fy nghalon ar ôl colli fy chwaer.

“Mae’n hyrwyddo’r pwysigrwydd o roi organau yma yng Nghymru achos mae ‘na fwy o bobl yn debygol o roi organau ar ôl y drafodaeth,” meddai Rhys Meirion, sefydlodd yr elusen gyda’i deulu ar ôl marwolaeth ei chwaer, yr athrawes a cherddor Elen Meirion yn 2012.

“Rydym wedi cynnal nifer o weithgareddau i godi arian ac ymwybyddiaeth am roi organau ac mae’r gyngerdd hon eleni efo’r un neges.

“Mae hefyd cryno ddisg llawn deuawdau ar gael yn dilyn y gyfres Deuawdau Rhys Meirion ar S4C.

“Mae’r holl elw yn mynd tuag at yr elusen.

“Roedd y noson yn anhygoel gyda chynulleidfa o tua 800 o bobl, a pherfformiadau cynnes gan rai o gantorion gorau Cymru,” meddai Rhys, sy’n awyddus bod y rhai sy’n rhoi organau yn cael eu cofio am sut maen nhw’n cyffwrdd â bywydau pobl eraill. 

“Mae’r ymateb i’r elusen a’r ymgyrchoedd yn fy ysbrydoli i wneud mwy o weithgareddau i godi arian at yr achos pwysig yma.

“Braf yw gallu cyhoeddi bod y noson wedi codi dros £11,000.

“Diolch i bawb am eich cefnogaeth.”

• Cyngerdd Awyr Las Rhys Meirion 

Dydd Calan, Nos Sul 1 Ionawr 8.00, S4C 

Hefyd, Nos Fercher 4 Ionawr 10.00, S4C. Ar alw: s4c.cymru; BBC iPlayer a llwyfannau eraill.

Cynhyrchiad Cwmni Da ar gyfer S4C

Rhannu |