Teledu

RSS Icon
19 Rhagfyr 2016

Iestyn Garlick yn chwilio am ei fam waed

ERS yn blentyn bach mae’r cynhyrchydd teledu, actor a chyhoeddwr rygbi Stadiwm Principality, Iestyn Garlick yn gwybod ei fod wedi cael ei fabwysiadu; ond nawr mae Iestyn eisiau canfod pwy ydy ei deulu gwaed.

Bydd S4C yn dilyn pob eiliad o’i daith ddirdynnol mewn rhaglen arbennig; Iestyn Garlick: Stori Mabwysiadu nos Fawrth, 27 Rhagfyr am 8.25.

Chwe deg pedwar mlynedd yn ôl aeth Elin a Raymond Garlick i nôl eu babi mabwysiedig, Iestyn o leiandy Nazareth House yn Abertawe. 

Oherwydd natur swydd ei dad, oedd yn athro, bu Iestyn yn byw yn Noc Penfro, Blaenau Ffestiniog, Yr Iseldiroedd a Chaerfyrddin; mae bellach yn byw yn Llanddeiniolen gyda’i wraig Lynne. 

Pan roedd y teulu ym Mlaenau Ffestiniog, ac Iestyn yn 6 oed, mabwysiadodd Elin ac Raymond blentyn arall, Angharad.

Meddai Iestyn: “Dw i wastad wedi gwybod fy mod i wedi cael fy mabwysiadu, dyna oedd fy stori cyn mynd i gysgu’n blentyn, stori fy rhieni’n fy newis i.

"Dw i wedi cael bywyd cyfforddus iawn, fedrwn i ddim wedi gofyn am fywyd gwell.

“Dwi erioed wedi ystyried fy hun yn berson anlwcus oherwydd imi gael fy mabwysiadu.”

Amgylchiadau teuluol sbardunodd Iestyn i chwilio am ei deulu gwaed.

Yn 1991 ganwyd ei fab Steffan, sydd ag anghenion dysgu dwys: “Ar y pryd ro’n i eisiau chwilio am atebion, ro’n i’n ymwybodol nad oedd na unrhyw beth yn nheulu Gaynor, fy ngwraig gynta’.

“Ond do’n i ddim yn gwybod amdana i fy hun.

“Mi ddechreuais i feddwl am fy nghefndir, ac os oeddwn i’n cario’r gennyn.

“Ond yn ddiweddar ar ôl colli ‘Nhad a Mam dechreuais feddwl am ffeindio fy mam waed. 

"Do’n i ddim eisiau gwneud cynt, rhag pechu fy rhieni.

“Y cwbl ro’n i ei eisiau oedd derbyn llun o fy mam waed.”

Canfu mai ei enw geni oedd Kevin Donnelly ugain mlynedd yn ôl, ac oherwydd hynny roedd Iestyn yn amau fod ei deulu yn dod o dras Wyddelig.

Ond mae ei daith yn mynd ag o ar draws Lloegr i Rugby, Lerpwl a Llundain a Gogledd Iwerddon.

Mae Iestyn yn dweud fod y broses o chwilio am ei deulu wedi bod yn un araf, ond wedi ei egluro’n ddidwyll iawn ar ffilm.

“Ar ddechrau’r chwilio mi ddywedodd Theresa Ryan o gwmni After Adoption fod rhaid i mi fod yn berson cryf ac abl i dderbyn be oedd o ‘mlaen i.

“Dw i wedi bod yn onest iawn yn ystod y rhaglen, ac mae hi wedi bod yn broses cignoeth iawn.

“Mae unrhyw beth wnes i ddarganfod yn ystod y rhaglen ar gamera, doedd dim lle i guddio!”

Ond beth sydd o flaen Iestyn? Gwyliwch daith ddirdynnol Iestyn wrth iddo chwilio am ei fam waed nos Fawrth, 27 Rhagfyr.

• Iestyn Garlick: Stori Mabwysiadu. Nos Fawrth, 27 Rhagfyr 8.25, S4C. Hefyd, dydd Mercher 28 Rhagfyr 3.00, S4C. Cynhyrchiad Antena ar gyfer S4C.

Rhannu |