Teledu

RSS Icon
05 Awst 2011

O Brif Weinidog i Brif Arddwr

Fel Prif Weinidog Cymru, roedd Rhodri Morgan yng nghanol bwrlwm bywyd gwleidyddol Cymru. Yn dilyn ei ymddeoliad yn gyntaf fel Prif Weinidog yn 2009, ac yna fel Aelod o’r Cynulliad ym mis Mai eleni, tawelwch ei ardd sydd yn awr yn ei ddenu wrth i arddio chwarae fwy o ran yn ei fywyd.

Bydd yn datgelu ei gariad tuag at arddio mewn dwy raglen yng nghyfres S4C ar gyfer pawb sy’n mwynhau bod yn yr ardd, Byw yn yr Ardd (i’w darlledu 11 a 24 Awst am 8.25pm).

Bydd y gwylwyr yn ymuno ag e yn ei ardd fawr yn ei gartref ers pum mlynedd ar hugain, ffermdy ym mhentref Llanfihangel-y-pwll sydd wedi ei leoli i’r gorllewin o Gaerdydd.

Dywed Rhodri fod ei ddiddordeb mewn garddio wedi dechrau pan welodd ei dad, yr Athro T.J. Morgan, yn tyfu llysiau yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Mae hefyd yn cofio cymryd cyfrifoldeb am yr ardd deuluol pan yn 15 oed yn sgil marwolaeth ei daid ac iechyd gwael ei dad.

“Dwi’n arddwr llysiau,” meddai’n falch. “Dwi wastad wedi credu y dylen ni roi blaenoriaeth i dyfu bwyd yn yr ardd.”

Mae ei benderfyniad i ymddeol o’r rheng flaen wleidyddol wedi rhyddhau mwy o amser i Rhodri i roi i’w ardd, ac mae wedi bod yn taclo prosiectau newydd.

“Dwi wedi creu rhandir llysiau newydd sydd yr un maint â chae criced…y broblem yw fy mod i’n plannu pethe yn rhy agos i’w gilydd ac felly does dim lle ar gyfer chwynnu. Mae hynny’n gamgymeriad, ond dwi’n dysgu rhywbeth newydd bob dydd.”

Mae hefyd wedi bod yn creu gardd deras newydd.

Ei nod yw treulio pedair neu bum awr y dydd yn ei ardd, “ond hyd yn oed pan dwi’n llwyddo i wneud hynny, dyw e dal ddim yn ddigon gan fod cannoedd o bethau i’w gwneud yn yr ardd!”

Meddai cynhyrchydd Byw yn yr Ardd, Aled Davies, “Rydym wedi mwynhau treulio amser gyda Rhodri, ac roedd yn ddiddorol iawn ei weld mewn amgylchedd gwahanol. Mae mor frwd dros ei ardd ag yr oedd o dros wneud ei orau dros bobl Cymru yn ystod ei gyfnod yn y Senedd ym Mae Caerdydd.”


Byw yn yr Ardd
Nos Iau 11 Awst a Nos Fercher 24 Awst 8.25pm, S4C
Isdeitlau Cymraeg a Saesneg ar gael
Gwefan: s4c.co.uk/bywynyrardd
Ar alw:s4c.co.uk/clic
Cynhyrchiad Cwmni Da ar gyfer S4C
 

Rhannu |