Teledu

RSS Icon
05 Awst 2011

Gwasanaeth newydd i ddysgwyr ar S4C

Cyhoeddodd S4C wasanaeth newydd i ddysgwyr Cymraeg mewn datganiad yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam ddydd Mercher.

Y bwriad yw cynnig deunydd ar deledu yn wythnosol ar brynhawn Sul yn ogystal â gwefan benodol ar gyfer dysgwyr o fis Mawrth 2012 ymlaen.

Meddai Arwel Ellis Owen, Prif Weithredwr S4C: “Mae gwaith ymchwil y sianel yn dangos fod y gynulleidfa yn dyheu am ehangu y gwasanaeth presennol i ddysgwyr.

“Mae dysgwyr yn garfan bwysig o’n cynulleidfa. Mi fyddwn yn rhoi pwyslais newydd ar gynnig gwasanaeth gwell i’r rheini sy’n dysgu Cymraeg.

“Dydyn ni ddim yn bwriadu dyblygu nag ail greu gweithgareddau sydd eisoes yn cael eu cyflawni gan y Mentrau a’r Canolfannau sy’n darparu deunydd proffesiynol a chyflawn ar gyfer dysgwyr. Yr hyn y gallwn ni ei wneud ydi cynnig deunydd addas i’r gynulleidfa darged drwy rym ein cynnwys.

“Mi fydd cynnwys aml-blatfform yn cael ei deilwra i bwrpas ac yn cynnig adloniant a symbyliad i ddatblygiad y dysgwr unigol. Drwy sefydlu partneriaethau ym maes dysgu Cymraeg, mi fydd modd creu llwybr clir i ddysgwyr fydd yn golygu y byddan nhw’n gallu mwynhau cynnwys S4C yn ei gyfanrwydd maes o law.”

Mae’r cyhoeddiad yn dilyn llwyddiant cyfres S4C cariad@iaith:love4language pan fu wyth o wynebau cyfarwydd yn dysgu Cymraeg am wythnos yng nghanolfan fforest, Cilgerran, Sir Benfro. Cynhyrchwyd 2,000 o becynnau dechreuol i ddysgwyr yn cynnwys CD a llyfryn geirfa fel rhan o’r gyfres. Oherwydd y galw mawr am y pecynnau, mae S4C wedi cynhyrchu 1,000 ychwanegol. Mae’r pecynnau ar gael o adeilad S4C ar faes yr Eisteddfod yn Wrecsam.

Rhannu |