Teledu

RSS Icon
02 Rhagfyr 2016

Dathlu degawd Sŵn: mynediad i bob man… ac i bob dim

Dros gant o artistiaid men 11 lleoliad. Dros dridiau swnllyd ym Mhrifddinas Cymru. Dyma ŵyl gerddoriaeth Sŵn oedd yn dathlu ei degfed flwyddyn eleni.

I nodi'r garreg filltir, bydd dwy raglen ddogfen ar S4C, #sŵn10, ar nos Sadwrn a nos Sul, 10 ac 11 Rhagfyr, yn rhoi golwg unigryw i ni ar y degfed digwyddiad ym mis Hydref eleni.

Bydd artistiaid yn rhannu'r hyn mae Sŵn yn ei olygu iddyn nhw, ac mi fyddwn yn clywed ambell stori liwgar gan y fyddin o wirfoddolwyr a ffans ffyddlon.

O gefn y llwyfan, i ganol y dorf, fe gewch chi fynediad i bob man… ac i bob dim.

DJ Radio 1 Huw Stephens a'r hyrwyddwr cerddoriaeth John Rostron yw trefnwyr Sŵn.

Yn y rhaglenni, bydd y ddau yn hel atgofion am ble, pryd a pham y daeth y syniad i greu gŵyl fel hon; sef cynnal cyfres o gigs mewn degau o leoliadau yn y brifddinas.

"Dyw syniad Sŵn ddim yn un gwreiddiol o gwbl," cyfaddefa Huw Stephens, er mai dyma'r ŵyl gyntaf o'i math yng Nghymru.

"Mae gen ti wyliau fel In the City ym Manceinion, Airwaves yn Reykjavik, a South by South West yn Austin, Texas."

A dyma le'r oedd Huw a John, yng nghanol cyffro'r ŵyl enwog yn Texas, pan gawson nhw'r syniad; beth am drio ail-greu'r profiad yma yng Nghaerdydd?

"Roedd hon yn adeg pan oedd rhaid aros am bethau cyffrous i ddod i Gaerdydd ac weithiau chi'n sylweddoli, oni bai eich bod chi'n dechrau pethau'ch hunain dyw e ddim yn mynd i ddod," esbonia Huw.

Ac, ar ôl pendroni am yr enw, dyma eni a bedyddio'r Sŵn cyntaf yn 2007.

Aeth yr ŵyl o nerth i nerth, ac yn 2014 fe enillodd wobr NME am yr ŵyl fach orau.

Mae ffans wedi heidio i weld rhai o artistiaid mwyaf Cymru a thu hwnt yn perfformio; yn eu plith Catfish and the Bottle Men, Marina and the Diamonds, The Vaccines, Cate le Bon a Sweet Baboo.

Ond, fel South by South West, un o gryfderau Sŵn yw cyflwyno artistiaid a cherddoriaeth newydd.

Mae Kizzy Crawford yn ddiolchgar i'r ŵyl am agor cyfleoedd newydd iddi hi.

Meddai'r gantores o Ferthyr Tudful: "Y gig gyntaf 'nes i yn Sŵn oedd yn Clwb Ifor Bach a fi'n meddwl mai hwnna oedd un o'r gigs cyntaf erioed 'nes i yng Nghaerdydd. 'Naeth e rili agor lan cyfleoedd i fi. 'Naeth pobl weld fi'n perfformio yn Sŵn a bwcio fi ar gyfer lleoliadau eraill."

Fel Kizzy, mae'r cerddor Gwenno Saunders yn ddiolchgar am gael perfformio yn Sŵn, ac yn credu mai cryfder yr ŵyl yw'r ffaith bod y gigs ar wasgar ac yn digwydd mewn llefydd bychan.

"Dyna ydy'r peth da am ŵyl sydd ddim mewn un man; mae'n ddinesig ac mae'n digwydd ar draws y ddinas," meddai Gwenno, enillydd Gwobr Gerddoriaeth Gymreig 2015.

"Dwi'n meddwl bod y ffaith eu bod nhw wedi creu rhywbeth fel hyn a dod â fo i Gaerdydd wir yn arbennig.

"Dwi'n teimlo'n lwcus iawn 'mod i wedi cael cyfle i chwarae a dwi'n gobeithio eith hi 'mlaen am 10 mlynedd arall!"

#sŵn10

Nos Sadwrn a nos Sul, 10 a 11 Rhagfyr 10.00, S4C

Ar alw: s4c.cymru; BBC iPlayer a llwyfannau eraill

Cynhyrchiad Greenbay Media ar gyfer S4C

Rhannu |