Teledu
O'r Wyddfa, i Gader Idris, i Ben y Fan – ydy'r her ddiweddaraf yn rhy fawr i Lowri Morgan?
Wedi iddi gwblhau heriau mewn rhai o'r ardaloedd mwyaf anghysbell ar y blaned fe benderfynodd Lowri Morgan aros yng Nghymru ar gyfer ei her ddiweddaraf a gwthio ei hun i'r eithaf drwy dirwedd fwyaf eiconig Cymru.
Gyda 2016 yn Flwyddyn Antur Cymru, bydd y cyflwynydd a chynhyrchydd o Benrhyn Gŵyr yn ceisio rhedeg tri marathon ultra mewn tri diwrnod, o Lanberis i Fannau Brycheiniog, gan redeg i fyny tri o fynyddoedd uchaf Cymru ar y ffordd; Yr Wyddfa, Cader Idris a Phen y Fan.
Yn y gorffennol, mae cyfresi S4C wedi dilyn Lowri wrth iddi drechu Marathon 150 Milltir yr Amazon a'r Ras Ultra 6633, sy'n cael ei chynnal o fewn Cylch yr Arctig ac yn para dros 350 milltir. Ond i Lowri, yr her ddiweddaraf fydd y gyntaf iddi hi ei mentro ers iddi hi ddod yn fam am y tro cyntaf ddwy flynedd yn ôl. Dilynwch bob cam o'r her 150 milltir yn y gyfres newydd S4C, Lowri Morgan: Her 333, sy'n dechrau nos Iau, 1 Rhagfyr.
"Fe ddaeth y syniad gwreiddiol yn 2014, i geisio cyflawni her nad oedd neb arall wedi ei gwneud, yng Nghymru. Yn y diwedd, fe benderfynon ni ar yr Her 333; tri marathon ultra, i fyny tri chopa, mewn tri diwrnod. Dwi heb weld y Guinness Book of World Records, ond does neb wedi cwblhau'r her yma imi wybod.
"Newidiodd popeth yn fuan ar ôl i ni gael y syniad pan gwympais i'n feichiog. Byddai hon wedi bod yn gyfres hollol wahanol pe bawn i ddim wedi cael fy mab - dwi'n amlwg yn berson gwahanol nawr am fy mod i'n fam. Ond yr un oedd yr her. Ar ôl bod yn feichiog, roedd yr ysfa i redeg yn gryfach nag erioed. Roeddwn i eisiau gwneud rhywbeth i herio'n hun eto."
Bydd rhai o redwyr ac athletwyr hir-bellter mwyaf blaenllaw Cymru yn ymuno â Lowri ar gymalau gwahanol o'r daith, gan gynnwys ambell wyneb cyfarwydd. Ymysg y gwesteion mae'r actor Mark Lewis Jones o Rosllannerchrugog; enillydd y gyfres ddiweddaraf o Ar y Dibyn, Ifan Richards; a rhedwr ifanc o Borthmadog, Owen Roberts, a dreuliodd rai misoedd yn ymarfer yn Kenya yn gynharach eleni gyda'r pencampwr Olympaidd David Rudisha.
"Pan 'chi'n rhedeg, 'chi ddim yn meddwl am unrhyw beth heblaw am y cam nesaf. Petaech chi'n meddwl am y ffaith eich bod chi'n ceisio rhedeg 150 o filltiroedd mewn tri diwrnod, fyddech chi'n colli eich meddwl. Mae 'na ddyddiau pan chi mor isel a chi'n teimlo nad oes unrhyw beth ar ôl yn y tanc, ond mae cael ffrind yn ymuno â chi yn dweud "go on Lowri", yn gallu rhoi cymaint o hwb i chi.
"Nid yn unig ydych chi'n blino'n gorfforol, ond 'dych chi'n blino'n feddyliol hefyd a dyw e ddim yn rhwydd meddwl am y peth nesaf i ddweud wrth y camera. Ond y fwyaf yw maint yr her, y fwyaf yw'r llwyddiant. Ac yn sicr, roedd y 333 yn lot fwy heriol nag oeddwn i wedi dychmygu."
- Lowri Morgan: Her 333, Nos Iau 1 Rhagfyr 9.30, S4C.Cynhyrchiad Tinopolis ar gyfer S4C
Llun: Yr actor Mark Lewis Jones a Lowri Morgan yn ystod Her 333