Teledu
Rhaglen yn dilyn recordiad albwm Bendith
Bydd rhaglen Bendith: Yn Fyw o Acapela yn cael ei ddarlledu ar S4C ar nos Sadwrn, 26 Tachwedd, am 22:00.
Prosiect cydweithiol o’r bandiau Cymraeg Plu a Colorama yw Bendith, sydd wedi rhyddhau eu halbwm Bendith ar 7 Hydref i adolygiadau da iawn.
Mae’r rhaglen Bendith: Yn Fyw o Acapela yn ffilm o’r broses ysgrifennu a recordio’r albwm yn stiwdio Acapela ym Mhentyrch nol yn hydref 2015.
Dywed Carwyn Ellis o Colorama: “Rydym i gyd mor falch o’r albwm – mae wir yn gywaith berffaith o gerddoriaeth Plu a’n un innau gyda llawer o bwyslais ar harmonïau lleisiol ac offeryniaeth wahanol.”
Mae caneuon yr albwm wedi eu hysbrydoli gan wreiddiau – ymdeimlad o le, teulu a chartref gyda rhan helaeth o’r caneuon wedi eu seilio ar ardal benodol o Sir Gaerfyrddin sy’n agos iawn at galon Carwyn ac wedi enwi nifer o’r caneuon.
Cafodd mwyafrif o’r albwm ei recordio yn fyw yn stiwdios Acapela, sy’n hen gapel wedi ei thrawsnewid yn leoliad stiwdio a pherfformio, gyda gweddill yr albwm yn cael ei recordio’n stiwdios Drwm a Masonic Lodge a’i chyd-gynhyrchu gan Mason Neely.
Dywed Marged Rhys o Plu: “Roedd hi’n brofiad hyfryd recordio a gweithio ar y caneuon yn Acapela, sy’n lleoliad bendigedig a llawn cymeriad.
"Dwi’n credu bod recordio mewn hen adeilad, gyda’r lloriau pren yn gwichian, wedi ychwanegu at naws gysurus yr albwm.
"Gwnaethom recordio rhan fwyaf o’r caneuon yn fyw gyda’r pedwar ohonom yn eistedd mewn cylch.
"Mae’n gwneud gymaint o wahaniaeth i recordio fel hyn, mae’n galluogi i ni fod yn hyblyg i newid teimlad a chyflymder y gân drwy gyfathrebu mewn edrychiadau a symudiadau. Mae’n teimlo’n fwy naturiol.”
Wedi ei ryddhau ar label Agati, mae’r albwm ar gael ar ffurf CD mewn siopau ac yn ddigidol ar iTunes, Spotify, Amazon neu o wefan http://www.bendith.cymru