Teledu

RSS Icon
01 Tachwedd 2016

Clwb2 yn rhoi sylw i amrywiaeth ryfeddol o chwaraeon Cymru

Ar ôl llwyddiant bythgofiadwy i arwyr chwaraeon o Gymru dros yr haf ar y maes, y trac, y felodrom a'r heolydd, beth sydd yn ein disgwyl yn ystod y misoedd nesaf?

Pa dalentau eithriadol o’n gwlad fydd yn serennu?

Y gyfres Clwb2 ar S4C yw'r unig le y cewch chi ddarlun llawn o’r datblygiadau yn y byd chwaraeon yng Nghymru.

Bydd y gyfres yn cadw golwg barcud ar yr hyn sy'n digwydd ar y lefel uchaf yn y byd chwaraeon, ond hefyd yn adlewyrchu'r bwrlwm yn y campau llai amlwg yng Nghymru.

Dylan Ebenezer fydd yn arwain y tîm cyflwyno yn fyw o'r stiwdio, wrth i'r rhaglen gyflwyno uchafbwyntiau o gemau rygbi Uwch Gynghrair y Principality, y gorau o gemau pêl-droed Wrecsam yn y Cynghrair Cenedlaethol, a'r uchafbwyntiau diweddaraf o gemau hoci iâ tîm y Cardiff Devils yn Uwch Gynghrair Hoci Iâ Prydain.

Bydd y gyfres hefyd yn llawn eitemau am gampau gwahanol bob wythnos.

Gydag adroddiadau am seiclo, tenis bwrdd, rygbi'r gynghrair, rhedeg, pêl-rwyd a phêl-fasged, bydd pob math o gampau i'w gweld ar S4C bob prynhawn Sul.

Bydd y rhaglen hefyd yn parhau i gyflwyno proffil o glybiau gwahanol yng Nghymru, yn yr eitem 'Clwb Ni'.

Dywedodd Dylan, a ddilynodd ymgyrch hanesyddol tîm pêl-droed Cymru yn Euro 2016 dros yr Haf: "Eleni, 'da ni wedi gweld cymaint o bobl yn rhagori mewn campau sydd efallai'n llai amlwg ond sydd wedi dal dychymyg pawb sy'n gwylio.

"Dyw'r diddordeb yn y byd chwaraeon erioed wedi bod mor fawr.

"Un o'r eitemau dwi 'di mwynhau fwyaf ydi 'Clwb Ni'," meddai Dylan. "Mae cwrdd â phobl yn eu cymunedau a rhoi sylw i beth sy'n digwydd o gwmpas Cymru yn wych. Mae cymaint o bethau'n digwydd ac mae pobl mor angerddol am eu clybiau nhw."

Gydol y gyfres hon bydd y gohebydd Geraint Hardy yn teithio ledled Cymru i gwrdd ag aelodau gwahanol glybiau chwaraeon. Yn ystod y darllediad byw o'r stiwdio, bydd Dylan yn crynhoi'r newyddion diweddaraf ac yn sgwrsio â rhai o'r enwau mwyaf adnabyddus yn y byd chwaraeon yng Nghymru.

"Bydd gennym westeion difyr ar y soffa yn ystod y gyfres hefyd," ychwanega Dylan, sy'n hanu o Aberystwyth ond bellach yn byw yng Nghaerdydd. "Y pencampwr Paralympaidd Aled Siôn Davies fydd y prif westai yn y bennod gyntaf a bydd is-reolwr tîm pêl-droed Cymru, Osian Roberts, yn galw heibio hefyd.

"Mae 'na elfen newyddion, mae 'na westeion, mae 'na eitemau, mae 'na dipyn bach o bopeth. Mae'n ffordd dda o grynhoi digwyddiadau’r penwythnos ac yn edrych ymlaen at yr wythnos nesaf."

Dywedodd Manon Rees-O'Brien, Uwch Swyddog Datblygu Chwaraeon Cymru: "Rydym yn falch iawn bod Clwb2 ar S4C.

"Mae chwaraeon yng Nghymru yn mwynhau cyfnod cyffrous dros ben ar hyn o bryd.

"Yn ogystal â gweld ein hathletwyr mwyaf talentog yn serennu ar y llwyfannau mwyaf, rydym hefyd wedi gweld sawl datblygiad cyffrous yn y campau sydd efallai’n llai adnabyddus a hynny  mewn cymunedau gwahanol ar hyd a lled Cymru.

"Mae'n bwysig bod y campau a'r gweithgareddau yma'n cael sylw ac rydym yn awyddus i gydweithio’n agos gyda'r gyfres i godi ymwybyddiaeth am y gwahanol gampau fel y gall pobl eu mwynhau a bod yn fwy heini."

Clwb2
Nos Sul, 6 Tachwedd 6 5.45, S4C                 
Isdeitlau Saesneg                               
Ar gael ar alw ar s4c.cymru, iPlayer a llwyfannau eraill
Cynhyrchiad Rondo Media ar gyfer S4C

Rhannu |