Teledu

RSS Icon
27 Hydref 2016

Ifan Richards yn ennill gwobr Ar y Dibyn ym Mlwyddyn Antur Cymru

Mae’r dyn o Feirionnydd sydd wedi ennill y gyfres awyr agored Ar y Dibyn eleni yn gobeithio y bydd y wobr o £10,000 yn ei helpu i ddechrau busnes fel arweinydd dringo mynyddoedd.

Yn niweddglo cyffrous y gyfres nos Fercher, roedd yn rhaid i’r ddau gystadleuydd olaf allan o’r 10 gwreiddiol, Ifan Richards, 38, o Frithdir, ger Dolgellau, a Seimon Menai, 32, o Bwllheli, gystadlu mewn sawl her arfordirol anodd.

Yn y diwedd, fe benderfynodd y cyflwynwyr Dilwyn Sanderson-Jones a  Lowri Morgan mai Ifan Richards, sy’n dad i ddwy ferch, oedd yr enillydd.

“Mae bod yn bencampwr Blwyddyn Antur Ar y Dibyn yn swnio’n grêt,” meddai Ifan, sy’n gweithio i Dŵr Cymru. “Doeddwn i byth wedi disgwyl ennill ar y dechrau. Roedd o’n deimlad annisgwyl ac emosiynol i ennill y wobr.

“Mae’r wobr yn mynd i gael effaith bositif iawn arna i,” ychwanega Ifan. “Mae’r pethau dwi eisiau gwneud efo’r wobr yn sicr mynd i agor drysau newydd i mi.

“Yn amlwg mae ‘na lot o bobl yn ymweld ag Eryri, ond dim cymaint yn agosach at Feirionnydd a’r Canolbarth, felly efallai fod 'na fwlch yn y farchnad yn y fan ‘ma’ i arwain teithiau dros y penwythnos.”

Yn y rownd derfynol, roedd yn rhaid i Ifan a Seimon dynnu eu hunain i fyny rhaff uwchben rhaeadr yn yr her gyntaf, cyn iddyn nhw wynebu ei gilydd mewn ras galed yn yr ail sialens, lle’r oedden nhw’n rhwyfo canŵ yn y môr cyn eu llusgo nhw ar hyd traeth efo pwysau ychwanegol ynddynt.

Yn yr her ddiwethaf, roedd yn rhaid i’r ddau arwain criw ar gwch hwylio, cyn ceisio achub un o’r beirniaid Dilwyn Sanderson-Jones wedi iddo gwympo i’r môr.

“Roedd Seimon yn andros o gystadleuwr cryf ac yn ŵr bonheddig. Doedd yr un o’r ddau ohonom ni’n siŵr pwy oedd yn mynd i ennill yn y ffeinal. Dwi ddim yn gwybod be’ welodd Dilwyn a Lowri ynof fi, a bod yn onest!”

Mae'r pecyn antur gwerth £10,000 mae Ifan wedi ei ennill yn cynnwys arian at gael cymwysterau arweinydd awyr agored, at brynu offer ac at fynd ar daith antur o'i ddewis.

Y cam nesaf i Ifan fydd ennill cymwysterau er mwyn iddo gael dechrau busnes yn arwain grwpiau i fyny mynyddoedd yn ne Eryri, agos i’w gartref ym Meirionnydd.

Y daith antur mae Ifan wedi ei dewis yw’r Ras Seiclo Tour Transalp, sy’n arwain beicwyr ar hyd taith saith diwrnod o’r Almaen i’r Eidal, ar hyd 850km o lonydd mynyddig.

“Mae’r Transalp yn un ras dwi wedi bod eisiau gwneud ers sbel ac mae 'na lot o ddringo yn y ras. Dwi’n edrych ymlaen yn arw at y ras,” meddai Ifan.

Llun: Ifan Richards

Rhannu |