Teledu

RSS Icon
21 Hydref 2016

Dau ddyn o Wynedd yn brwydro i fod yn Bencampwr Ar y Dibyn ym Mlwyddyn Antur Cymru

Wedi rhedeg i lawr clogwyni, cerdded drwy afonydd dwfn a byw yng ngwylltineb Bannau Brycheiniog am dros 24 awr heb unrhyw offer, dau ŵr o Wynedd fydd yn cystadlu ym mhennod olaf y gyfres Ar y Dibyn.

Roedd 10 cystadleuydd brwd ar ddechrau'r gyfres antur, sy’n cael ei darlledu bob nos Iau ar S4C.

Ond, ar ôl cyfres o heriau eithafol, dim ond dau ddyn dewr sy'n weddill - Seimon Menai, 32 o Bwllheli, ac Ifan Richards, 38 o Frithdir, ger Dolgellau.

Gan fod 2016 yn Flwyddyn Antur Cymru, bydd gwobr werth £10,000 yn y fantol - ond bydd angen iddyn nhw roi un ymdrech enfawr arall os am gyrraedd y brig.

Dechreuodd diddordeb Seimon yng ngweithgareddau awyr agored dair blynedd yn ôl, pan benderfynodd roi'r gorau i ysmygu ac yfed a cheisio cadw'n heini.

Wedi iddo ddringo Kilimanjaro yn Nhanzania, mynydda a dringo yw prif gryfderau Seimon yn y gystadleuaeth.

Meddai Seimon, sy'n gweithio fel arweinydd prosiect, "Roeddwn i'n agosáu at fy nhridegau a phenderfynais wneud newidiadau positif i fy mywyd a dringo Kilimanjaro.

Dyna oedd y peth gorau i mi ei wneud erioed. Fe es i o un pegwn i'r llall; mynd o fod yn hollol allan o siâp i ganolbwyntio ar ffitrwydd.

"Mae cymryd rhan yn Ar y Dibyn fel dringo ysgol serth iawn. Ti'n gwneud lot o gamgymeriadau ac mae'n rhaid i chdi ddygymod efo hyn a dysgu ohonyn nhw.

"Dwi 'di dysgu peidio â bod mor galed arna i fy hun. Mae'r profiad wedi rhoi lot fawr o hyder i mi. 'Swn i'n dod yn bencampwr, mi fyswn i'n gwirioni; mi fyddai'n golygu gymaint i mi."

Yn wynebu Seimon fydd Ifan, sy'n dad i ddwy ferch ac yn gweithio i Dŵr Cymru. Mae gan Ifan gariad mawr tuag at yr awyr agored ac mae'n rhedwr mynydd a beiciwr mynydd o safon.

"Dwi wrth fy modd yn yr awyr agored ac mae hwn 'di bod yn gyfle i mi 'neud pethau doeddwn i ddim wedi eu gwneud o'r blaen.

"Dwi 'di bod yn eitha' stuck in my ways, jest yn rhedeg a seiclo lot, ond ar ôl gwneud y tasgau yma, dwi 'di cael agoriad llygad. Dwi wedi profi 'mod i'n gallu addasu yn sydyn.

"Dwi 'di deud o'r cychwyn cyntaf mai bod yn bencampwr yw'r nod ac ennill y teitl dwi eisiau gwneud yn fwy na dim byd arall. Bonws bysai'r wobr i mi, ond mae o'n dipyn o fonws. Bysai ennill swm a phecyn fel 'na yn gwneud lot o wahaniaeth i mi."

Mae'r pecyn antur gwerth £10,000 yn cynnwys arian at gymwysterau arweinydd awyr agored, at brynu offer ac at anfon yr enillydd ar alltaith o'i ddewis.

Yn y bennod olaf, mi fydd y ddau gystadleuwr yn cymryd rhan mewn cyfres o dasgau yn ymwneud â’r arfordir, i benderfynu pa un ydi’r anturiaethwr gorau.

Ar y Dibyn

Nos Fercher 26 Hydref 9.30, S4C

Isdeitlau Saesneg                                                   
Ar gael ar alw ar s4c.cymru, iPlayer a llwyfannau eraill
Isdeitlau Saesneg
Cynhyrchiad Cwmni Da ar gyfer S4C

Rhannu |