Teledu

RSS Icon
08 Gorffennaf 2011

Ar Lafar

Yn y chweched raglen yn y gyfres Ar Lafar nos Lun, 11 Gorffennaf, fe fydd y bardd a’r cyflwynydd Ifor ap Glyn yn mentro i Sir Drefaldwyn; cartref yr ‘a’ fain.

 

Bydd yn cychwyn ei daith ym Mhenybontfawr, lle mae’r Gymraeg yn ffynnu o hyd er mor agos yw’r pentref at Glawdd Offa,

 

Trwy ‘gianu’ a chymdeithasu, ffermio a choginio, bydd Ifor yn arsylwi ar y newidiadau o fewn tafodiaith ‘cogie a lodesi’ Maldwyn.

 

Bydd hefyd yn dysgu fod nodwedd unigryw'r Canolbarthwyr yn treiddio i ardaloedd o’r de a'r gogledd. A thafodiaith pwy a lle ydy’r Wenhwyseg, ac ydy e'n dal i fodoli heddiw?

 

Yn ddiweddarach yn y noson yn y rhaglen Noson ar Lafar am 22:00, byddwn yn dathlu iaith unigryw Maldwyn yng nghwmni’r berfformwraig amryddawn Siân James.

 

Fe fydd yn cael cwmni rhai o’i ffrindiau o’r ardal, Ann Fychan, Alun Jones a’r ocsiwnïar Glandon Lewis.

 

Cawn fwynhau noson amrywiol o ryddiaith, cerddi, ffilmiau byrion ac ambell gân yn eu cwmni.

 

Bydd cyfle i fwynhau straeon hwyliog Corrissa Jôs o Ysgrifau’r Randibŵ yn ogystal â hen benillion traddodiadol gan Alun 'Cefne' Jones gyda Siân yn canu’r delyn.

 

Mae'r darnau i gyd yn cymryd golwg ysgafn ar fywyd, ac wedi'u hysgrifennu yn iaith yr ardal!

 

Ar Lafar, Nos Lun, 11 Gorffennaf, 21.00

Noson Ar Lafar, 22.00 yr un noson

Cynhyrchiad Cwmni Da ar gyfer S4C

Rhannu |