Teledu

RSS Icon
08 Gorffennaf 2011

Y Goets Fawr yn cyrraedd diwedd y daith

Daeth bron 1,000 o bobl i groesawu Y Goets Fawr wrth iddi gyrraedd pen ei thaith yng Nghaergybi nos Iau, 30 Tachwedd.

I ddathlu diwedd y daith, a ddechreuodd yng Nghroesoswallt ddydd Sul 26 Mehefin, cafodd ddigwyddiad arbennig ei gynnal ar y blaendraeth yng Nghaergybi a oedd yn cynnwys gorymdaith o’r ceffylau ac amrywiaeth o goetsus.

Mae camerâu S4C wedi dilyn taith Y Goets Fawr ar hyd ffordd yr A5 o Groesoswallt i Gaergybi gan ail greu rhan o lwybr yr hen Bost Brenhinol o Lundain i Iwerddon. Yn teithio ar y goets roedd y cyflwynydd Ifan Jones Evans a fu’n mwynhau gwisg, bwyd ac adloniant oes y Goets Fawr yn nechrau’r 19eg ganrif a chyfarfod llu o gyfranwyr ar hyd y daith.

Meddai Shân Cothi, un o gyflwynwyr y gyfres: “Un o’r pethau braf ar hyd y daith oedd ymateb y gwylwyr. Roedd y croeso yng Nghaergybi yn goron ar y cyfan.”

Bob nos fe gynhaliwyd cyfres o ddigwyddiadau arbennig yn rhad ac am ddim ar gyfer y gymuned leol. Daeth cannodd o bobl i ymuno yn y digwyddiadau ac roedd pobl hefyd wedi dod i fin y ffordd i wylio’r goets yn mynd heibio.

Ar ddiwedd y daith hefyd, fy gyhoeddodd Ifan bod y criw wedi casglu dros £1,000 er budd elusen Barnardos, sef elusen Y Post Brenhinol eleni.

“Roedd hi’n wythnos fythgofiadwy. Mae’r ceffylau wedi bod yn anhygoel ac fe wna i byth anghofio’r wythnos,” meddai Ifan Jones Evans. “Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i bawb am eu croeso a’u haelioni wrth gyfrannu at elusen Barnardos.”

Gwyliwch daith Y Goets Fawr eto ar y Clic - s4c.co.uk/clic.

Rhannu |